Mae bellach yn amser i reoli ein dolydd gwyllt ar hyd a lled y fwrdeistref sirol ac rydym wedi ymrwymo i bladuro nifer o’n safleoedd eleni gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwych.
Ond pam pladuro?
Mae gennych chi well rheolaeth dros y modd y caiff y ddôl ei thorri!
Rydych yn gallu edrych ar beth rydych yn ei dorri ac osgoi unrhyw ardaloedd sy’n gynefinoedd sy’n ffynnu. Ar ôl torri yn ddiweddar rydym wedi dod o hyd i doreth o fywyd gwyllt ac mae’n bosibl y gallai nifer o’r cynefinoedd sy’n hanfodol i’r bywyd gwyllt hwn fod wedi eu colli pe byddai strimiwr wedi ei ddefnyddio ac mae’n bosibl na fyddent wedi goroesi’r torri. Mae’n hynod o dda ar gyfer torri o amgylch coed gan osgoi difrod gan strimwyr a thorwyr llwyni.
Mae’n tarfu llai ar y bywyd gwyllt o amgylch!
Mae’n llai swnllyd ac nid yw’n defnyddio peirianwaith niweidiol a weithredir gan gemegau a all lygru’r ardal. Ar ôl torri fe allwn greu pentyrrau o gynefinoedd lle byddwn yn pentyrru’r glaswellt sydd wedi ei dorri a bydd hyn yn annog nifer o rywogaethau i ddefnyddio’r ardal hon. Mae hyn hefyd yn lleihau ein hôl-troed carbon wrth reoli darn o dir gan ddefnyddio’r dull traddodiadol hwn.
Mae pladuro yn ffordd mwy cymdeithasol o dorri!
Rydych yn gallu sgwrsio gyda’ch cyd bladurwyr sy’n golygu fod hwn yn ddigwyddiad gwirfoddoli gwych ac yn rhoi cyfle i gyfarfod pobl newydd a dysgu sgil newydd ar yr un pryd. Yn ystod ein tymor pladuro hyd yma, fe ddywedodd y mwyafrif o bobl fu’n rhan o hyn fod pladuro yn rhywbeth sy’n fwy hamddenol na strimio.
Rydym yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau pladuro yn ystod yr wythnosau nesaf felly cadwch lygad ar dudalen Facebook Cyngor Wrecsam i gael gwybodaeth. Yn olaf, fe hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli i’n helpu ni i bladuro’r dolydd hyd yma.
I gael rhagor o wybodaeth ar wirfoddoli, mae croeso i chi gysylltu â LocalPlacesForNature@wrexham.gov.uk.