Bydd rheolwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, Phil Parkinson, yn derbyn rhyddid y fwrdeistref sirol yn swyddogol ddydd Mawrth, 14 Ebrill – gyda’r seremoni yn cael ei darlledu ar y we o Neuadd y Dref i bawb ei gwylio.
Cafodd y penderfyniad i roi’r anrhydedd i Mr Parkinson ei wneud yn y Cyngor Llawn yr hydref diwethaf, yn dilyn dyrchafiadau cefn-wrth-gefn hanesyddol y clwb. Bydd y seremoni yn Neuadd y Dref yn gweld y dogfennau swyddogol yn cael eu llofnodi – gan gadarnhau’r anrhydedd ddinesig i Mr Parkinson.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Mae Phil Parkinson wedi gwneud gwaith anhygoel yn mynd â’r tîm o’r Gynghrair Genedlaethol i’r Bencampwriaeth mewn tri thymor yn unig, ac rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cydnabod y cyflawniad hwn trwy ddyfarnu rhyddid y fwrdeistref.
“Mae’r hyn mae’r clwb wedi’i gyflawni yn anhygoel – nid yn unig o ran llwyddiant ar y cae, ond hefyd o ran yr effaith ar y ddinas gyfan. Mae wedi rhoi hyder newydd i Wrecsam. Roedd hefyd yn wych gweld tîm merched Wrecsam yn ennill Uwch Gynghrair Adran Genero yn ddiweddar – mae’r clwb yn mynd o nerth i nerth.
“Byddwn yn gwe-ddarlledu’r seremoni i sicrhau bod pobl yn gallu ei gwylio ar-lein, a gobeithio y bydd yn foment falch iawn i’r ddinas, y clwb a’r cefnogwyr.”
Cynhelir y seremoni tua chanol prynhawn ddydd Mawrth, 14 Ebrill – bydd yr union amser a’r dolenni gwe-ddarlledu yn cael eu cadarnhau yn ystod y dyddiau nesaf.



