Gwnaeth y Cynghorydd Hugh Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd ailadrodd yr angen i bobl sy’n awyddus i helpu pobl ddiamddiffyn i wneud cyfraniadau i’r elusennau sy’n eu cefnogi, yn hytrach na rhoi bwyd neu gyflenwadau eraill iddynt yn uniongyrchol.
Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Rwyf wedi annog, yn y ffordd fwyaf cryf posibl, nad yw pobl yn rhoi rhoddion uniongyrchol i’r rhai ar safle Groves.
“Mae nifer o bobl ar y safle nad ydynt yn ddigartref ac mae eraill naill ai wedi gwrthod ymgysylltu ag asiantaethau cymorth neu wedi bod yn ymddwyn yn amhriodol gyda gweithwyr cefnogi.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Rydym yn cael adroddiadau gan y rhai sy’n ymgysylltu gyda’r bobl ar y safle bod cyflenwadau bwyd ac eitemau eraill a rhoddwyd yn cael eu gwerthu am gyffuriau – yn amlwg mae hyn yn gwneud pethau’n waeth.
“O ganlyniad, mae hyn yn golygu nad oes rhaid iddynt ymwneud ag asiantaethau a sefydliadau – y rhai a all roi cefnogaeth hirdymor iddynt – ac mae’n ein hatal rhag gallu gweithio gyda nhw.
“Mae parhau i roi rhoddion i’r safle yn anghyfrifol a gwrthgynhyrchiol, ac mae’n tanseilio popeth rydym yn ei wneud.
“Mae croes i roddion bwyd, cyflenwadau, arian ac unrhyw beth arall yn Nhŷ Croeso, ar Ffordd Grosvenor.
“Dylai unrhyw un sydd am helpu fynd â’r rhoddion sydd ganddynt yno.”
“Nid yw’r sefyllfa’n manteisio o roddion dilyffethair”
Mae pennaeth elusen sy’n seiliedig yng Ngogledd Cymru i bobl sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol wedi siarad am yr angen i bobl roi rhoddion i’r sefydliadau iawn yn hytrach na’u rhoi yn uniongyrchol.
Mewn diweddariad ar wefan yr elusen Cais, i bobl sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol, meddai’r Prif Weithredwr, Clive Wolfendale: “Rwy’n credu nad yw’r sefyllfa’n manteision o ddarparu rhoddion dilyffethair i unigolion sy’n ddigartref ar y stryd. Y tebygrwydd trist yw y byddant yn bwyta’r bwyd ac yna gwario’r adnoddau eraill sydd ganddynt ar ddiod a chyffuriau.
“Mae angen cyfuno cefnogaeth les gydag ymdrechion cadarn i ymgysylltu’r unigolion dan sylw a’u cyfeirio at yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael.
“Mae rhoddion syml yn debygol iawn o gymell unigolion i barhau i aros yn yr ardal. Nid yw hyn er lles neb, yn enwedig y rhai sy’n cysgu allan.”
<blockquote><a href=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm ” target=”new” onclick=”trackOutboundLink(‘ http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm’); return false;”>GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.</a></blockquote>
COFRESTRWCH FI