Os wyt ti rhwng 11 a 25 oed ac eisiau dweud dy ddweud am bynciau sy’n bwysig i ti a phobl ifanc eraill yn Wrecsam, dyma gyfle gwych i ti.
Ar 26 Mehefin, 5-8pm, yn Neuadd y Dref yn Wrecsam, mae Senedd yr Ifanc yn dy wahodd di i gyfarfod blasu! Mae hyn yn golygu bod gwahoddiad i bawb ddod draw i weld beth mae Senedd yr Ifanc yn ei wneud heb ymrwymo i ddim.
Yn ystod y cyfarfod, bydd gweithgareddau anffurfiol a ffurfio a chyfle i siarad efo gweithwyr proffesiynol a gofyn cwestiynau iddynt am y ffordd maen nhw’n cefnogi pobl ifanc yn Wrecsam. Bydd lluniaeth hefyd ar gael.
Os wyt ti’n mwynhau’r sesiwn flasu, mi alli fod yn aelod o Senedd yr Ifanc, sy’n golygu y byddi’n gallu gweithio gyda phobl ifanc eraill i ddatrys materion sy’n bwysig i bobl ifanc. Mae’r aelodau’n cyfarfod ar ddydd Llun olaf pob mis ac mae’r cyfarfodydd yn gallu cynnwys trafodaethau, gweithgorau ar bynciau, cyfleoedd gwych am hyfforddiant a llawer mwy. Byddi hefyd yn gallu ymuno mewn gweithgareddau a theithiau cymdeithasol.
I gael gwybod mwy ac i gadw lle i ti dy hun ar y noson flasu, anfona e-bost at youngvoices@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 298374 neu 07800 688979.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.