Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd am beryglon siopa ar-lein gyda’r nos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhybudd am beryglon siopa ar-lein gyda’r nos
Arall

Rhybudd am beryglon siopa ar-lein gyda’r nos

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 5, 2022 11:13 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Warning on the dangers of late-night online shopping
RHANNU

Erthygl gwadd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

Mae arolwg barn diweddar o 2,000 o oedolion wedi datgelu bod dros hanner (54%) o siopwyr ar-lein yn dweud eu bod wedi siopa wrth yfed alcohol a bod mwy na 8 mewn 10 (86%) wedi siopa wrth wylio’r teledu, gan eu gadael yn agored i dactegau gwerthu camarweiniol.

Wrth i gostau byw barhau i gynyddu, a chyda bron i draean o archebion manwerthu nawr yn cael eu gwneud ar-lein, mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn gynyddol bryderus am effaith arferion gwerthu ‘slei’ ar brynwyr.

Mae’r arolwg yn dod fel rhan o ymgyrch newydd yr Awdurdod The Online Rip-Off Tip-Off i helpu siopwyr i adnabod ac osgoi tactegau ar-lein camarweiniol, a allai arwain at gael eu twyllo.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch hon yn rhybuddio siopwyr bod y fath ddulliau gwerthu yn gallu bod yn fwy effeithiol wrth eu dylanwadu os ydynt yn siopa ar adegau penodol o’r dydd, neu pan maent mewn cyflwr meddwl penodol. Mae’n cynghori siopwyr i fod yn ofalus cyn iddynt yfed a chlicio.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae gwaith ymchwil cychwynnol yn amlygu bod tactegau camarweiniol wedi’u dylunio i chwarae ar fias ymddygiadol, yn aml heb i bobl sylw eu bod yn cael eu dylanwadu. Gall hyn olygu eu bod yn fwy effeithiol fyth pan mae sylw siopwyr wedi cael eu tynnu, pan maent yn llwglyd neu wedi blino, er enghraifft.

Mae 8 mewn 10 o bobl sy’n siopa ar-lein gyda’r nos yn dweud eu bod yn gwneud hynny, neu wedi gwneud hynny, wrth wylio’r teledu ac mae o gwmpas tri chwarter yn dweud yr un fath am wrando ar y radio/ar gerddoriaeth (69%) neu sgrolio ar y cyfryngau cymdeithasol (70%), ac mae’r arolwg barn diweddar hwn yn amlygu pa mor hawdd yw cael eich camarwain heb wybod.

Mae’r Awdurdod yn rhybuddio bod pawb yn gallu bod yn agored i hyn. Datgelodd ei arolwg bod mwy na thraean o Genhedlaeth Z, sy’n cael eu galw’n genhedlaeth ‘sy’n frodorion digidol’ wedi cyfaddef i fod yn destun dwyll ar-lein. A nhw sy’n gwario fwyaf gyda’r nos, gan wario £290 ar gyfartaledd dros y mis diwethaf.

Esboniodd George Lusty, Uwch Gyfarwyddwr ar gyfer Diogelu’r Cwsmer: “Wrth i gostau byw barhau i godi, mae’n rhaid i bob ceiniog a wariwn gyfri. Rydym yn pryderu llawer mwy am fusnesau ar-lein yn defnyddio technegau gwerthu i wthio pobl i wario eu pres.

“Ac mae adeg y dydd neu gyflwr meddwl wrth siopa yn gallu eich gwneud yn fwy agored i gael eich camarwain heb wybod. Edrychwch ar ‘Online Rip-Off Tip-Off’ yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, sydd wedi cael ei lansio i helpu siopwyr adnabod ac osgoi twyll posib ar-lein.”

Y 4 prif dacteg cyffredin i gamarwain yw:

  • Trap tanysgrifio – camarwain cwsmeriaid i gofrestru, a thalu am, danysgrifiad di-angen a all fod yn anodd ei ganslo
  • Costau cudd – ffioedd gorfodol annisgwyl, costau neu drethi yn cael eu hychwanegu pan mae rhywun yn ceisio gwneud archeb ar-lein
  • Rhoi pwysau wrth werthu – tacteg sy’n cael ei ddefnyddio i greu camargraff o argaeledd neu boblogrwydd cynnyrch neu wasanaeth
  • Adolygiadau ffug – adolygiadau nad ydynt yn adlewyrchu barn wirioneddol neu brofiad cwsmer o gynnyrch neu wasanaeth

Wedi’i gyflwyno gan y cyflwynydd teledu a phencampwr cwsmeriaid, Angellica Bell, mae ymgyrch Online Rip-off Tip-Off wedi cael ei lansio gyda ffilm yn dangos tactegau ar-lein camarweiniol yn y farchnad go iawn, gyda’r neges allweddol “ni fyddwch yn goddef hyn all-lein, felly peidiwch ar-lein”.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o arferion ar-lein camarweiniol, deall yr effaith negyddol a gallant gael, a darparu awgrymiadau ar sut i’w hosgoi. Dysgwch ragor ar www.gov.uk/ripoff-tipoff

Am gyngor pellach neu i adrodd pryder, cysylltwch â  Chyngor ar Bopeth

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hyfforddiant ar Drosedd ar Stepen y Drws ac Ymwybyddiaeth o Sgamiau Hyfforddiant ar Drosedd ar Stepen y Drws ac Ymwybyddiaeth o Sgamiau
Erthygl nesaf Mwy o gefnogaeth gan Clwb Pêl Droed Cymru i Gais Dinas Diwylliant y DU #Wrecsam2025 Mwy o gefnogaeth gan Clwb Pêl Droed Cymru i Gais Dinas Diwylliant y DU #Wrecsam2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English