Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion sydd wedi ffurfio contractau gwaith adeiladu neu atgyweirio’r tŷ gyda masnachwyr ar ôl dod o hyd iddynt ar-lein, naill ai drwy wefan y masnachwr neu gyfeirlyfrau masnach ar-lein.
Yn ddiweddar, daeth preswylydd oedrannus a diamddiffyn yn Wrecsam o hyd i döwr ar un o’r gwefannau hyn, gan dalu cannoedd o bunnoedd iddynt mewn arian parod am y gwaith atgyweirio.
Er bod y töwr wedi darparu derbynneb am y taliad, nid oedd yn cynnwys llawer o fanylion am y masnachwr. Sylwodd y preswylydd fod y to yn gollwng dŵr yn fuan ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, ond nid oedd modd iddynt ganfod manylion y masnachwr er mwyn cysylltu â nhw i ddatrys y broblem a cheisio cael eu harian yn ôl.
Yn aml, nid yw masnachwyr sy’n defnyddio’r dull hwn i hysbysebu yn cynnig eu manylion llawn, megis cyfeiriad ac enw a rhif cyswllt cofrestredig y busnes. Byddwch yn ofalus gyda masnachwyr sydd ond yn cynnig eu rhif ffôn symudol fel manylion cyswllt, oherwydd mae’n bosibl y bydd yn anoddach i chi gysylltu â nhw os bydd unrhyw broblemau’n codi.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Os yw’r wefan yr ydych yn ystyried ei defnyddio yn gofyn i chi lenwi ffurflen i wneud cais am fasnachwr, a’u bod yn cysylltu â chi, sicrhewch eu bod yn fodlon darparu eu manylion cyswllt llawn a gwiriwch y manylion hyn.
Os nad ydynt yn fodlon darparu’r manylion hyn, efallai y byddai’n syniad i chi chwilio am rywun arall. Efallai fod gan fasnachwr eu gwefan eu hunain a’u bod yn ymddangos yn hynod o broffesiynol, ond cofiwch wirio a yw eu manylion cyswllt wedi’u nodi ar y wefan ac a ydynt yn hysbysebu unrhyw gymwysterau neu a ydynt aelod o unrhyw gymdeithasau masnach.
“Treuliwch ychydig o funudau yn meddwl yn ofalus”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Os ydych yn gofyn i fasnachwr ymweld â’ch eiddo, sicrhewch eich bod wedi derbyn dyfynbris manwl am y gwaith a threuliwch ychydig o funudau yn meddwl yn ofalus amdano. Dylech fod yn wyliadwrus iawn os nad ydynt yn fodlon rhoi pethau ar bapur, byddai masnachwr dibynadwy yn hapus i wneud hyn.
“Dylai’r dyfynbris gynnwys pris penodedig gan gynnwys TAW, crynodeb o’r gwaith i’w gwblhau a’r deunyddiau sydd eu hangen, manylion ynghylch pryd fydd y taliad yn ddyledus, manylion cyswllt llawn y masnachwr, a’ch hawliau i ganslo’r contract os yn berthnasol.
“Dylid osgoi talu blaendaliadau mawr mewn arian parod neu drwy drosglwyddiad banc. Cofiwch, os ydych yn talu gydag arian parod neu drwy drosglwyddiad banc heb unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer y masnachwr, mae’n bosibl na fydd modd i chi arfer eich hawliau fel defnyddiwr na chael eich arian yn ôl.”
Mae’n bosibl hefyd na fydd y Safonau Masnach yn gallu dod o hyd iddynt i ymchwilio i unrhyw droseddau a amheuir. Yn anffodus, mae’r Safonau Masnach wedi dod i wybod am sawl achos lle digwyddodd hyn.
Cynghorion ar gyfer dewis masnachwr
• Lle bo modd, gofynnwch i bobl rydych yn eu hadnabod am awgrymiadau a gofynnwch am enghreifftiau o’r gwaith.
• Byddwch yn ymwybodol nad yw adolygiadau ar-lein bob amser yn ddilys.
• Os ydych yn defnyddio cynllun cymeradwyo masnachwyr, gwiriwch pa wiriadau sy’n cael eu cwblhau cyn i fasnachwyr ymuno, ac a yw’r cynllun yn cynnig cynllun unioni os bydd unrhyw broblemau’n codi. Mae ystod eang o gynlluniau ar gael, ac mae rhai ohonynt yn cynnal nifer fawr o wiriadau, ac eraill yn gyfeirlyfrau hysbysebu nad ydynt yn cynnal unrhyw wiriadau ar y masnachwyr a restrir. Mae cynlluniau Safonau Masnach Cymeradwy, megis Prynu Gyda Hyder, yn cynnwys mesurau diogelu. Mae’n rhaid i fasnachwyr fodloni safonau penodol ac mae’r rhain yn cael eu harchwilio gan eu Safonau Masnach lleol cyn y caniateir iddynt gael eu cynnwys yn y cynllun. Gallwch ddod o hyd i fanylion ar eu gwefan www.buywithconfidence.gov.uk
• Dylech gyfweld contractwyr cyn i chi eu cyflogi, gofynnwch lawer o gwestiynau, a rhowch ddisgrifiad clir a manwl o’r gwaith sydd angen ei wneud. Sicrhewch eich bod yn gallu cyfathrebu â nhw’n rhwydd gan y bydd hyn yn eich helpu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n codi.
• Peidiwch â theimlo dan bwysau i gytuno i gontract. Ceisiwch gymharu masnachwyr gwahanol. Os nad ydych yn gyffyrddus, peidiwch â’u cyflogi, a cheisiwch ddod o hyd i rywun arall.
• Sicrhewch eu bod yn gymwys i gwblhau’r gwaith y maent yn ei gynnig e.e. tystysgrif Gas Safe neu gofrestriad â’r Gymdeithas Dechnegol Llosgi Olew, neu gofrestriad i weithio fel trydanwr.
Gellir dod o hyd i gyngor defnyddiol pellach ar wefan https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Gallwch roi gwybod am broblemau a dod o hyd i gyngor i ddefnyddwyr ar y wefan neu drwy ffonio 0808 2231144.
CANFOD Y FFEITHIAU