Er ein bod yn gobeithio y bydd Wrecsam yn osgoi’r tywydd gwaethaf, gallwch roi gwybod i’r cyngor am unrhyw faterion (e.e. difrod storm, coed wedi cwympo ac ati) trwy ffonio’r rhifau canlynol:
o (24awr) 01978 298989
o Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk ar gyfer galwadau y Tu Allan i Oriau yn Unig.
Plîs ffoniwch am faterion brys yn unig-am unrhyw faterion eraill, plîs helpwch ni drwy nodi eich problem yma.
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105 (Mae Toriad Pwer 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Gellir hysbysu Dŵr Cymru am unrhyw argyfwng gyda charthion yn gorlifo o ddraeniau ar 0800 085 3968.
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rwyf eisiau mynegi fy ngwerthfawrogiad i staff Adran yr Amgylchedd sydd wedi ymateb i nifer o alwadau gan drigolion i ddelio â llifogydd.
“Mae ffyrdd wedi cau ac mae bagiau tywod wedi cael eu darparu mewn ymdrech i leihau effaith y storm.
“Rwyf hefyd yn ddiolchgar am ddealltwriaeth ac amynedd y trigolion sy’n cydnabod ein bod yn ymateb ar gyfnod gyda gweithlu llawer llai yn sgil gweithredu diwydiannol. Mae nifer o staff wedi dychwelyd o’u gwyliau mewn ymateb i’r alwad a gwerthfawrogir eu hymrwymiad yn fawr.”
Diweddariad ar ffyrdd sydd ar gau neu y gellir eu pasio yn ofalus
- Cefn Road – Five Fords i Abenbury – ar gau
- Ffordd Rosemary, Burton – ar gau
- Ffordd Broadoak Hall, Burton – ar gau
- B5102 Hollt i Rossett – ar gau mewn llefydd, angen cymryd ofal
- B5130 Ridleywood – tramwyadwy gyda ofal
- B5426 Cylchfan Plassey, wrth Fferm Whitehouse – tramwyadwy gyda ofal
Canolfan ailgylchu Plas Madoc
Mae canolfan ailgylchu Plas Madoc wedi cau oherwydd llifogydd.
Tra bod ein safleoedd yn Lôn Bryn a’r Lodge yn parhau i fod ar agor, mae amodau ffyrdd ledled y sir yn parhau i fod yn anodd oherwydd dŵr wyneb a llifogydd felly byddwch yn ofalus iawn wrth yrru.