Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:
- (24 awr) 01978 298989
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk.
Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Gellir rhoi gwybod i Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 am unrhyw argyfyngau lle bydd carthion yn gorlifo o ddraeniau.
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
Awgrymiadau ar gyfer toriadau pŵer – gan Scottish Power
- Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rif y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer argyfyngau, sef 105 – beth am roi’r rhif ar yr oergell neu ei arbed fel rhif cyswllt ar eich ffôn symudol? Rhowch wybod am unrhyw doriad pŵer ar unwaith.
- Sicrhewch fod gennych chi dortsh batri neu dortsh troi â llaw wedi ei gadw mewn man hwylus er mwyn i chi allu edrych ar y bocs ffiws a mynd o un ystafell i’r llall yn ddiogel.
- Byddwch yn wyliadwrus o linellau pŵer sydd wedi syrthio, efallai eu bod nhw wedi syrthio oherwydd eira trwm felly byddwch yn ofalus wrth fentro allan o’ch cartrefi. Dylech chi gymryd bod trydan yn fyw ynddynt bob amser, a rhowch wybod amdanynt ar unwaith drwy ffonio 105.
- Cadwch eich ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn– bydd hyn yn eich galluogi i ffonio am gymorth os oes angen. Efallai ei bod hi’n syniad cael ffôn analog hefyd, gan nad yw hwn yn rhedeg oddi ar y prif gyflenwad trydan.
- Cadwch y gwres yn y tŷ – os ydych chi’n cael toriad pŵer, mae’n bosibl na fydd eich gwres chi’n gweithio felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi flancedi ychwanegol ger llaw a chaewch y ffenestri, y bleindiau, a’r llenni er mwyn cadw’r gwres yn y tŷ.
Cofiwch: Os oes ceblau ar y llawr neu’n agos at y llawr, cadwch draw oddi wrthynt. Mae’n bosibl fod trydan yn fyw ynddynt, a’u bod yn dal i allu dargludo trydan drwy lawr llaith ac eitemau metel.
Os ydy’r ceblau ar y ffordd, neu ar lwybrau cerdded, ffoniwch 999 a dywedwch wrth yr heddlu. Arhoswch ar y safle os ydych chi’n gallu er mwyn sicrhau bod y bobl sy’n pasio yn cadw’n ddigon pell i ffwrdd.