Wrth i ni ddechrau edrych ymlaen at fwynhau rhagor o amser hamdden eleni, mae cyffro yn datblygu ymhlith y rhai sy’n hoff o ffilmiau yma yn Wrecsam gydag ond ychydig o ddyddiau i fynd nes y bydd “Free Guy”, ffilm newydd cydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds, yn cael ei dangos mewn sinemâu ar draws y wlad!
Gan fod Reynolds a Rob McElhenney yn gydberchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae Disney wedi comisiynu dangosiad preifat o’r ffilm i gael ei gynnal yma yn y dref yn Odeon ar 10 Awst, cyn iddi gael ei rhyddhau’n swyddogol mewn sinemâu ar 13 Awst ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.
Er y bydd prif ddangosiad y DU yn cael ei gynnal cannoedd o filltiroedd i ffwrdd ar Leicester Square, bydd Disney’n cynnal digwyddiad lleol a phreifat a fydd yn cynnwys staff gwasanaethau rheng flaen ac elusennau gan gynnwys Hosbis Tŷ’r Eos a Blood Bikes er mwyn diolch am eu gwaith dros yr 16 mis diwethaf.
Ni fydd y cast yn mynychu’r digwyddiad yn sgil cyfyngiadau ar deithio ac ymrwymiadau eraill, fodd bynnag, rydym yn siŵr y bydd cefnogwyr sinema Wrecsam yn awyddus iawn i weld y ffilm ddiweddaraf hon gan y seren Deadpool, Reynolds.
Mae’r ffilm yn adrodd hanes gêm fideo byd agored, Free City, lle mae Guy (Reynolds) yn gweithio fel clerc banc. Diolch i raglen a ddatblygwyd gan raglenwyr a gaiff eu rhoi yn Free City gan y cyhoeddwr – daw Guy i wybod ei fod yn byw mewn gêm fideo, ac mae’n datblygu i fod yn arwr gan gystadlu’n erbyn y cloc i arbed y gêm rhag cael ei chau i lawr gan y datblygwyr.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym wedi dotio at y newyddion gwych bod Disney wedi ystyried Wrecsam ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn, ac rwy’n siŵr y bydd nifer ohonom yn edrych ymlaen at wylio’r ffilm a dechrau mwynhau rhagor o ddigwyddiadau hamdden yn ddiogel wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio ymhellach yma yng Nghymru.
“Er nad yw Ryan a Rob wedi cael cyfle i ymweld â Wrecsam eto – rwy’n gwybod y byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt pan fydd y diwrnod wedi cyrraedd o’r diwedd.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN