‘Wyddwn i ddim bod hynny yno!’
‘Lle mae fan ‘na?’
‘Dyna lun da, ond dydw i ddim wedi clywed amdano!’
Pan ofynnom i chi anfon lluniau o’r Fwrdeistref Sirol atom ni er mwyn creu Calendr Rhyfeddodau Wrecsam, roedd arnom ni eisiau gweld rhyfeddodau cudd Wrecsam – ac fe gawsom ni ein siomi o’r ochr orau.
Ond rydyn ni wedi clywed murmuron bod rhai gemau wedi’u cuddio’n dda iawn ac nad oedd rhai trigolion yn gwybod eu bod nhw yno! Felly, beth am fanteisio ar eich calendr a dechrau archwilio?
Os nad ydych chi wedi gweld y calendr eto, ewch i nôl copi o’r Ganolfan Groeso, y llyfrgell neu’r amgueddfa – mae ‘na 12 llun lleol anhygoel i’w ddarganfod yno. Mae’r calendrau yn £3 yr un neu’n £5 am ddau.
Beth am gychwyn ym Mharc Acton, Rhaeadr Coed y Bers neu Gapel Coffa Anna Maria Peel yn Owrtyn, yn wir mae yna lefydd prydferth i ymweld â nhw ac efallai y dowch chi ar draws rhyfeddod na wyddoch chi amdano.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT