Wrexham Chester Shrewsbury
Wrexham General railway Station

Mae Swyddfa Rheoleiddio’r Priffyrdd wedi cyflwyno ei hadroddiad blynyddol ddiwedd blwyddyn ddiwethaf ar deithwyr yn defnyddio’r gorsafoedd ar linell Caer, Wrecsam a’r Amwythig sydd yn dangos cynnydd yn y nifer o deithwyr yn ystod 2018/2019. 🙂

Mae’r cynnydd fel a ganlyn:

  • Caer i fyny 8% i 5,061,662 o 4,686,374
  • Wrecsam Cyffredinol i fyny 7.6% i 529,622 o 492,390
  • Rhiwabon i fyny 7.3% i 102,628 o 95,670
  • Y Waen i fyny 5.6% i 79,746 o 75,524
  • Gobowen i fyny 4.5% i 228,526 o 218,684
  • Yr Amwythig i fyny 3% i 2,276,726 o 2,209,684

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Meddai Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd Caer a’r Amwythig, y Cynghorydd David A Bithell, “Mae’n dangos pa mor bwysig yw ein rheilffyrdd i bob un o’n cymunedau. Mae teithwyr yn yr ardal wedi dewis teithio ar drên am ei fod yn rhoi cysylltiadau da iddyn nhw i lefydd maen nhw angen eu cyrraedd yn waith, addysg neu hamdden. Mae’r newidiadau i amserlen Rhagfyr gan Drafnidiaeth Cymru sydd wedi golygu colli gwasanaeth bore i’r gogledd a gorfod aros am ddwy awr am drên i’r de yn y prynhawn yn fwy anodd ei deall pan mae’r ffigyrau yn dangos cynnydd o ran defnydd.”

Ailgyflwynwch y gwasanaeth bob awr ar hyd llinell Caer, Wrecsam a’r Amwythig

“Mae teithwyr angen gwasanaeth cyson a dibynadwy a byddwn yn parhau i bwyso i ailgyflwyno’r gwasanaeth bob awr ar hyd llinell Caer, Wrecsam a’r Amwythig a oedd yn wasanaeth a ddefnyddiwyd yn gyson ers ei gyflwyno 13 mlynedd yn ôl gan Drenau Arriva Cymru.”

Darllenwch fwy am welliannau llynedd i’r llinell hwn.

https://news.wrexham.gov.uk/community-rail-partnership-stays-on-track-for-future-improvements

Community rail partnership stays on track for future improvements

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN