Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-21
Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Mae Cyngor Wrecsam wedi prynu nifer o ddyfeisiau RITA gan My Improvement Network.
Mae RITA yn sefyll am ‘Reminiscence Interactive Therapy Activities’ – sef Gweithgareddau Therapi Hel Atgofion Rhyngweithiol . Mae’n rhoi mynediad i’r rheiny sydd yn byw â dementia at apiau, gemau a gweithgareddau hamdden eraill fel rhan o’u hadferiad.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae’r system therapi ddigidol arloesol hon sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, yn caniatáu i bobl fwynhau cerddoriaeth ymlaciol, gwylio newyddion o archif y BBC, edrych ar hen luniau a gwrando ar areithiau enwog, er mwyn helpu i sbarduno atgofion a chychwyn sgwrs.
Bu Cyngor Wrecsam yn gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer’s a grŵp o bobl sy’n byw â dementia yn ogystal â’u gofalwyr er mwyn gwneud yn siŵr y byddai RITA yn gweithio iddyn nhw. Roedd yr adborth yn bositif a gyda’u cymeradwyaeth nhw rydym wedi prynu’r RITA.
Mae darparwyr gofal lleol wedi cael cyfle i dderbyn dyfeisiau i’w defnyddio yn eu gwasanaethau.
Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Cynghorydd Joan Lowe: “Dylai’r gyfres gyntaf o ddyfeisiau fod yn cyrraedd darparwyr ddechrau mis Mehefin. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i weld pa mor llwyddiannus ydynt o ran cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn ein cymunedau.
Mae’n bwysig rhoi’r cyfle i bobl sydd â dementia gymryd rhan mewn gweithgareddau a sgyrsiau ystyrlon a gobeithiaf mai dyma’n union fydd RITA yn ei gynnig.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF