Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024
Pobl a lle

Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 26, 2024 12:16 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024
RHANNU

Erthygl Gwadd- Gŵyl Wal Goch

Mae Gŵyl Wal Goch yn dychwelyd i Wrecsam, cartref ysbrydol pêl-droed Cymru, gyda noddwr newydd. Mae arwr Cymru ac Everton, Neville Southall, yn cymryd rôl noddwr pêl-droed yng Ngŵyl y Gelli. 

Dywed Southall, “Rown i’n westai yn rhifyn Cwpan y Byd yr ŵyl yn 2022 a ges i fy syfrdanu gan awyrgylch y digwyddiad a’r ffordd y daeth y tîm â rhaglen ragorol o ddigwyddiadau a gwesteion rhyngwladol ynghyd am dri diwrnod yn Wrecsam.

“Mae angen i ni i gyd glywed mwy am yr effaith gadarnhaol y gall pêl-droed ei chael wrth helou creu newid cymdeithasol mewn meysydd fel iechyd meddwl dynion a rhoi grym i ferched. Rwy’n hapus iawn i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi’r ŵyl i wneud hynny.”

Mae rhestr arbennig o westeion yn yr ŵyl eleni, gan gynnwys arwr Chelsea, Everton a’r Alban, Pat Nevin, awdur The Guardian David Conn, Carrie Dunn, Rebecca Watson a’r bardd Evrah Rose. Bydd cerddoriaeth, dangosiadau, arddangosfeydd ac ychydig o bêl-droed wrth gwrs.

Wrth i ni edrych ymlaen at yr Ewros yn yr Almaen, mae David Conn yn ymuno â phanel rhyngwladol ar ysgrifennu pêl-droed gyda’r newyddiadurwr Kit Holden o Berlin a Thomas Morris o Gymru. Bydd David hefyd yn cyfweld cyn chwaraewr Chelsea, Everton a’r Alban a sylwebydd 5 Live Pat Nevin.

Bydd première Cymreig o’r ffilm Chileaidd Historicas, wedi’i chyfarwyddo gan Javiera Court a Grace Lazcano, sy’n adrodd hanes sut aeth chwaraewyr benywaidd y wlad cymryd yr awennau      eu hunain wrth i’r tîm cenedlaethol fynd yn fwyfwy segur.

Byddwn yn ystyried sut y gall atgofion pêl-droed helpu pobl â dementia a mathau eraill o golled cof, a byddwn yn edrych yn benodol ar gêm y merched a rhai o’r pynciau llosg sy’n effeithio ar ddyfodol pêl-droed merched. Bydd hyn yn cynnwys sut mae sicrhau’r perfformiad gorau ac osgoi anafiadau sy’n effeithio’n arbennig ar enethod a merched. Byddwn yn trafod trosglwyddo o bêl-droed proffesiynol i yrfa ôl chwarae – a’r effaith y gall hyn ei gael ar iechyd meddwl – gyda chyn chwaraewr Henffordd ac enillydd Cwpan Cymru, Ian Benbow.

Leon Barton yn siarad â’r ‘Little Wonder’ Brian Flynn wrth iddo ddathlu 50 mlynedd ym myd pêl-droed. Mae Peris Hatton yn berchen ar fwy na 300 o grysau pêl-droed. Mae wedi ysgrifennu llyfr amdanyn nhw a bydd yn ymuno â ni i ddweud yr hanes. 

Bydd cyd-sylfaenydd yr ŵyl, Russell Todd, yn adrodd hanes bywyd rhyfeddol Phil Woosnam o Gaersws. Mae ganddo radd mewn Ffiseg ac mae wedi ennill anrhydeddau rhyngwladol gyda Chymru, cyn dod yn ‘Dad pêl-droed proffesiynol yn UDA’. Chwaraeodd ran blaenllaw yn yr ymdrech i ddenu pobl fel Pele, Cruyff, Best a Beckenbauer i Gynghrair Bêl-droed Gogledd America. 

Bydd yna hefyd ddigonedd o dalent leol Wrecsam i’w gweld, gan gynnwys Evrah Rose, Mark Coverdale a Lisa O’Hare. Mae cerddoriaeth fyw bob amser yn rhan annatod o’r ŵyl gyda pherfformwyr y gorffennol yn cynnwys Gallops, Gruff Rhys, Adwaith a Sage Todz. Eleni, bydd Cwlwm Tystion yn chwarae yn Tŷ Pawb ar y nos Wener, gyda Larynx Entertainment yn curadu noson o gerddoriaeth o darddiad du ddydd Sadwrn.

Mae’r rhaglen lawn a dolen i brynu tocyn ar gael yn www.footballfansfestival.com, a bydd cynnig arbennig i ddeiliaid band arddwrn Focus Wales ar gael yn ystod penwythnos yr ŵyl. Mae plant dan 16 oed yn cael mynediad am ddim i Ŵyl Wal Goch, yn ogystal â gofalwyr cofrestredig pobl anabl.

Meddai Dave Evans o dîm yr Ŵyl, “Mae gyda ni artistiaid anhygoel unwaith eto eleni. Mae rhywbeth at ddant pawb yng Ngŵyl Wal Goch – ffilmiau, sgyrsiau ac arddangosfeydd. Os ydych chi’n frwd am ein gêm genedlaethol, y celfyddydau a phŵer pêl-droed yna mae wir angen i chi fod yno.”

Yn ol Dave, “Mae’n siwr bod pawb a wrandawodd ar gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, George Berry, yn yr ŵyl y llynedd wedi’u syfrdanu gan ei straeon am yr hiliaeth a wynebodd yn y 1970au a’r 1980au. Yn yr un modd, bu cyn-enillydd Esgid Bêl-droed Aur a chwaraewr Croatia, Real Madrid ac Arsenal, Davor Suker, yn sôn am ba mor bwysig oedd pêl-droed i’w genedl fach yn y Balcanau ar ôl Rhyfel Cartref Iwgoslafia.” 

Roedd David Conn yn siaradwr yn 2022, a bydd efyn ei ôl ar gyfer #WalGoch24. Meddai: “Roedd 2022 yn rhaglen anhygoel o bêl-droed a diwylliant. Roedd yna lyfrau, sgwrs ar dîm pêl-droed y carchar Prescoed FC a phŵer pêl-droed i helpu pobl yn seicolegol yn ogystal ag yn gorfforol.”

“Roedd yna hefyd ffilmiau rhyfeddol yn dangos statws gwerthfawr pêl-droed mewn ardaloedd anodd ar draws y byd. Dangosodd yr ŵyl gyfan i mi cymaint o feddwl sydd gan Gymry o dîm cenedlaethol eu dynion; mae’r teimlad a’r angerdd o gefnogi clwb yn fyw. Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Wrecsam eleni.” 

Rhannu
Erthygl flaenorol D-Day Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day
Erthygl nesaf Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun. Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English