Samantha Maxwell, yr awdur o Wrecsam, yn galw draw i Neuadd y Dref i gwrdd â’r Maer…
Daeth awdur ac ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl i gwrdd â Maer Wrecsam yn ddiweddar i drafod ei llyfrau a rhai o’r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Mae Samantha Maxwell yn byw yn Wrecsam ac wedi’i magu yma, ac fe ysgrifennodd ei chyfrol gyntaf – CP Isn’t Me – yn ystod y pandemig Covid.
Mae’r llyfr yn rhoi syniad o brofiadau Sam pan oedd hi’n tyfu i fyny â pharlys yr ymennydd ac mae’n sôn am ei hamser yn yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd, coleg a’r brifysgol, cyn iddi fentro i fyd gwaith.
Cyhoeddodd ei hail lyfr yn gynharach eleni – Disabling Ableism – sy’n bwrw golwg ar wahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau ac yn codi cwestiynau pigog i gymdeithas wrth ystyried sut ellid newid pethau er gwell.
Daeth Sam a’i mam, Chris, i Neuadd y Dref yn ddiweddar i gwrdd â Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore, yn ogystal â Nicole Mitchell-Meredith sy’n gweithio â grwpiau anableddau ledled y fwrdeistref sirol fel rhan o dîm rheoli prosiectau Cyngor Wrecsam.
Meddai Sam: “Roedd hi’n hyfryd cwrdd â’r Maer a Nicole, ac roedd hi’n braf cael cyfle i siarad am fy llyfrau a rhai o’r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
“Mi ysgrifennais i’r llyfr cyntaf yn ystod y pandemig ac roedd o’n hwb mawr imi mewn cyfnod anodd. Roedd popeth wedi dod i stop ac roeddwn i’n teimlo’n eitha’ unig, ond roedd ysgrifennu am fy mhrofiadau’n rhoi rhywbeth imi ganolbwyntio arno.
“Mi ges i’r syniad ar ôl i fy chwaer yng nghyfraith, sy’n athrawes, ofyn imi ysgrifennu adolygiad o lyfr iddi ddangos i’w dosbarth. Mi ges i hwyl ofnadwy arni a meddwl ‘pam na fedra i ysgrifennu llyfr?’”
Er na fyddai gan y rhan fwyaf ohonom yr un syniad ble i ddechrau, canfu Sam fod ganddi ddawn naturiol fel awdur o’r cychwyn cyntaf – a daeth o hyd i gyhoeddwr wrth weithio o fore gwyn tan nos ar ei llawysgrif…
“Roedd o’n fy nghadw i’n brysur ac ro’n i’n meddwl fod gen i neges bwysig iawn i’w rhannu… hynny yw, bod anabledd ddim yn diffinio rhywun. Mae yno unigolyn y tu ôl i’r anabledd ac mae’n bwysig fod pobl yn eu gweld.
“Mae wedi bod yn brofiad bendigedig ysgrifennu’r llyfrau yma, a hoffwn ddiolch i fy nheulu – gan gynnwys fy niweddar Nan, Mary, fy ffrindiau, fy nghyhoeddwr, Allan a phawb sy’n fy nghefnogi am eu cymorth a’u hanogaeth. Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd hebddyn nhw.”
Mae Sam hefyd wrth ei bodd â theulu cerddorol enwog y Jacksons a chafodd wefr aruthrol pan roes ei harwyr sêl bendith ar CP Isn’t Me y llynedd!
Newid agweddau
Meddai Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore: “Mae Sam yn ferch hyfryd gyda theulu clên a chefnogol, ac roedd hi’n bleser ei gwahodd i Neuadd y Dref.
“Mae’n bwysig dros ben fod pobl sy’n byw ag anableddau’n rhannu eu profiadau, a gall pob un ohonom helpu i newid agweddau a gwneud y byd yn lle gwell a thecach i bawb.
“Credaf fod llyfrau Sam yn fendigedig a dymunaf bob llwyddiant iddi yn y dyfodol – mae hi’n ferch ifanc eithriadol ac yn gaffaeliad i Wrecsam.”
Rhwystrau anweledig
Yn ei llyfrau, mae Sam yn sôn am y rhwystrau y mae’n rhaid i bobl ag anableddau ymdopi â hwy bob dydd, sy’n aml yn anweledig – maent yn gwneud pethau fel dod o hyd i waith, teithio o A i B a chymdeithasu’n anos fyth.
“Mae’n anodd deall heb fynd drwy’r profiad eich hun,” meddai Sam. “Ond rydw i wedi cael fy mwlio, cael y sac a chael fy mychanu’n gyffredinol achos mod i mewn cadair olwyn.
“Mae gen i radd mewn dylunio graffeg, rydw i’n ddylunydd graffeg ar fy liwt fy hun yn gweithio yn y diwydiant rasio ceir, rydw i’n berchen ar fy musnes bach fy hun yn rhan-amser, yn dylunio a gwerthu posteri ar y we, ac rydw i hefyd yn awdur erbyn hyn, yn ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl anabl, cydnabyddiaeth a hygyrchedd.
“Ond achos mod i mewn cadair olwyn, dyna beth oedd cymdeithas yn ei weld am flynyddoedd – y gadair olwyn, ac nid y ferch oedd ynddi. Mae hi mor bwysig helpu pobl i ddeall sut mae’n teimlo, fel bod modd i bawb weithio gyda’i gilydd i newid pethau er gwell. Dwi’n gobeithio bod fy llyfrau’n helpu i wneud hynny.”
Mae copïau o CP Isn’t Me a Disabling Ableism ar gael gan Amazon, Waterstones (gan gynnwys y Waterstones yn Wrecsam), Canolfan Croeso Wrecsam, Siop Fferm a Chanolfan Arddio’r Brodyr Bellis (Holt), Coleg Cambria, Prifysgol Wrecsam, llyfrgelloedd Wrecsam, y Senedd yng Nghaerdydd a mannau eraill yng Nghymru, Swydd Amwythig, Lerpwl, Manceinion a Birmingham.