Mae Diwrnod Hwyl Cymunedol Lleoedd Diogel i’r teulu i gyd ddydd Gwener, 18 Awst rhwng 10am a 4pm ar Sgwâr y Frenhines
Bydd digon i’w weld megis gemau i blant, ffair, stondinau gwybodaeth, peintio wynebau, candi-fflos, hufen ia a llawer mwy ar y dydd.
Os oes gennych ddiddordeb cael stondin yn y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at safeplaces@wrexham.gov.uk
Mae cynllun “Lleoedd Diogel” yn sicrhau bod gan bawb sydd yn ymweld â Wrecsam le diogel i fynd iddo os ydynt yn teimlo’n orbryderus neu’n teimlo panig, straen neu’n arbennig o ddiamddiffyn. Mae busnesau lleol yn cofrestru i gymryd rhan yn y cynllun ac yna’n arddangos arwydd y gall defnyddwyr sydd wedi cofrestru ei adnabod gan wybod y gallant gael cymorth gan y rhai y tu mewn.
Mae’n rhoi sicrwydd i bobl o wybod bod ganddyn nhw, neu’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, le diogel i fynd pan fydd angen. Gall y lle diogel fod yn siop, tafarn, llyfrgell, adeilad cyngor neu unrhyw le sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd sticer yn nodi bod y lle yn “Lle Diogel” a bydd hefyd yn ymddangos yn y gronfa ddata genedlaethol.
Mae menter “Lleoedd Diogel” yn cael ei rhedeg gan SWS (Safonau Gwasanaethau Wrecsam) ac mae’n rhan o gynllun cenedlaethol.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.