Bydd Andrew Thomas-Price, sy’n wyneb cyfarwydd ar y teledu yn hyrwyddo crefft byw yn y gwyllt yn ymuno a grŵp o arddwyr talentog ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth ddydd Iau, Ebrill 25 er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli ar brosiectau yn ardal Wrecsam.
Bydd Gweithredu yn y Gwanwyn yn rhedeg o 12pm gan 4pm ac yn cynnwys llu o weithgareddau i bawb roi cynnig arnynt, o gynaeafu gwair i gyfeiriannu i gywasgu afalau a chwilio am ffosiliau!
Meddai Andrew: “Rydw i wedi teithio ar draws Cymru ac wedi profi ei harddwch eithriadol a’i hamrywiaeth, ac mae hyn yn aml iawn yn ganlyniad i ymdrechion a brwdfrydedd gwirfoddolwyr.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
“Pobl gyffredin sy’n gwneud pethau rhyfeddol yw’r gwirfoddolwyr hyn sy’n cyfrannu gymaint at yr amrywiol waith maen nhw’n ei wneud, a ‘dw i hefyd wedi gweld cymaint maen nhw eu hunain yn ei gael o’r gwaith a faint mae’n ei olygu i’r cymdeithasau a’r cymunedau maen nhw’n byw ynddynt
“Mae Wrecsam yn ffodus i fod â llawer o gyfleoedd gwirfoddoli gwych yng Nghanolfan Treftadaeth Brymbo, Plas Pentwyn, Melin y Nant, Chwarel y Mwynglawdd a mannau eraill ac mae’n wych gweld pobl o bob oed yn cymryd rhan.”
Yn ymuno ag Andrew bydd aelodau o Glwb Garddio Cymunedol Plas Pentwyn, enillwyr y Faner Werdd am ddwy flynedd yn olynol. Gwirfoddolwyr yw aelodau’r clwb sydd ymysg pethau eraill wedi creu perllan dreftadaeth sy’n cynnwys rhai o goed ffrwythau prinnaf Cymru.
Meddai un o’r aelodau a sefydlodd y clwb, Moira Taylor o Goedpoeth: “’Da ni i gyd yn arddwyr brwd a ddaeth at ei gilydd tua wyth mlynedd yn ôl mewn dosbarth creu basgedi hongian ym Mhlas Pentwyn, a soniodd rhywun bod ‘na ardd fach yma.
“Mi wnaethon ni benderfynu tyfu ychydig o lysiau yma a rŵan mae gynnon ni wlâu wedi’u codi, llu o blanhigion, blodau, perlysiau, llysiau a ffrwythau a sied arddio.
“Erbyn hyn ‘da ni hyd yn oed ar gwricwlwm yr ysgol ac mae grŵp o wyth o blant yn dod bob tymor i helpu ac i ddysgu am arddio ac mae’n beth braf eu gweld nhw’n cymryd rhan.”
Trefnwyd y digwyddiad Gweithredu yn y Gwanwyn gan Hayley Morgan o Dîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a ddywedodd: “Da ni am dynnu sylw at y cyfleoedd sy’n bodoli i wirfoddoli yma yn Wrecsam a’r amrywiaeth o brosiectau y gall pobl weithio arnynt.
“Nid dim ond bod yn barod i faeddu dwylo mae hyn yn ei olygu, er bod hynny’n bwysig – mae yna hefyd sgiliau eraill sydd eu hangen ar y prosiectau hyn megis sgiliau marchnata, gweinyddu, cyfrifo – gall pawb chwarae eu rhan a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac wedi’i anelu at recriwtio mwy o wirfoddolwyr ar gyfer prosiectau cymunedol ac annog pobl i chwarae mwy o ran yn lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Agored Gwirfoddolwyr Gweithredu yn y Gwanwyn cysylltwch â Plas Pentwyn neu ffoniwch 01978 667328.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB