Yn enwog am gynifer o ganeuon o ffilmiau clasurol, dydych chi ddim am fethu’r cyfle i weld y seren roc hwn yn Llyfrgell Wrecsam.
Bydd canwr a chyfansoddwr ffefrynnau o’r 80au fel ‘St. Elmo’s Fire’ (o’r ffilm o’r un enw), ‘The Minute I Saw You’ (o Three Men and a Baby) a’r faled bŵer ‘Restless Heart’ (o ffilm Arnold Schwarzenegger, The Running Man) yn Llyfrgell Wrecsam ar 5 Awst, 6pm.
Mae John Parr wedi ysgrifennu ffilm fer a sgôr gerddoriaeth yn seiliedig ar fywyd y bardd Hedd Wyn (ganed Ellis Humphrey Evans), bardd Cymraeg ei iaith a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i chi weld y ffilm a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda John Parr wedyn.
Dyfarnwyd y gadair iddo ar ôl ei farwolaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1917. Yn y seremoni gadeirio cafodd y gadair wag ei gorchuddio mewn lliain ddu fel arwydd o barch ac fe’i cyflwynwyd i rieni Evans fel hyn. Cyfeirir at yr Eisteddfod honno bellach fel Eisteddfod y Gadair Ddu.
Mae hwn yn ddigwyddiad Saesneg am ddim, ffoniwch y llyfrgell i gadw lle!
Os ydych chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ond hefyd am fanteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau ymylol yr wythnos honno, cofiwch y bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim yn rhedeg rhwng yr eisteddfod a gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol drwy’r dydd, bob dydd, yn ystod wythnos yr eisteddfod.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.