Ers cyhoeddi enw dewisedig yr adeilad, mae diddordeb wedi cynyddu’n fawr yn natblygiad newydd Tŷ Pawb, a fydd yn dod â’r celfyddydau, marchnadoedd a gwaith cymunedol at ei gilydd yn hen adeilad Marchnad y Bobl ar Stryt Y Farchnad.
Mae diwedd y prosiect ac agoriad y cyfleuster newydd yn nesáu a bydd digwyddiad mawr yn cael ei gynnal i nodi’r agoriad ar Ddydd Llun Pawb. Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn hen Farchnad y Bobl wedi ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2018.
Wrth i fomentwm y prosiect gryfhau, felly hefyd y mae’r ffocws ar beth fydd Tŷ Pawb yn ei gyflawni i Wrecsam. Mae diddordeb mawr yn ochr gelfyddydol y prosiect a beth y gellir ei ddisgwyl o’r arddangosfeydd a digwyddiadau eraill a gynhelir yn y datblygiad yn y dyfodol.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae gan Wrecsam leoliad celfyddydol prysur yn barod gyda phrosiect THIS ar safle Undegun ar Stryt Y Rhaglaw yn denu llawer o sylw ac yn boblogaidd iawn.
Oherwydd pwysigrwydd y celfyddydau yn Wrecsam a’r rhan fawr y bydd hynny yn ei chwarae yn Nhŷ Pawb, aethom draw i siarad â Jo March, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Oriel Wrecsam.
Bydd Jo yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb pan fydd yn agor yng ngwanwyn 2018. Cawsom sesiwn holi ac ateb sydyn â hi er mwyn dal i fyny a chanfod mwy am bwrpas ei rôl newydd a pha gynlluniau sydd ganddi ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.
Beth yw’ch rôl mewn perthynas â Thŷ Pawb?
Fi yw Arweinydd Celfyddydau CBSW a Chyfarwyddwr Creadigol Oriel Wrecsam a byddaf yn Gyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb (lle ar gyfer celfyddydau, marchnadoedd a’r gymuned) pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf yn hen adeilad Marchnad Y Bobl.
Ers pryd ydych chi wedi bod yn y swydd hon?
Cefais y swydd ym mis Ionawr 2017. Cyn hynny roeddwn yn Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu i Oriel Wrecsam.
Beth yw’ch cefndir artistig a beth oeddech chi yn ei wneud cyn i chi ddechrau gweithio yn Oriel Wrecsam?
Artist hunangyflogedig ac addysg celfyddydol yw fy nghefndir; mae fy ngwaith yn cynnwys cerfluniau, gwaith ffilm a phrosiectau sy’n cynnwys artistiaid eraill a’r cyhoedd.
Rhywfaint o fy ngwaith blaenorol yw prosiect o’r enw With Love From The Artist (www.withlovefromtheartist.com) a enillodd Wobr Gelf Woolgather yn 2011; ac oriel deithiol o’r enw WanderBox a adeiladais er mwyn creu sioe deithiol gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru (www.wanderbox.org).
Rwyf wedi gweithio fel addysgwr celfyddydau llawrydd i Oriel Wrecsam, Oriel Davies, Oriel Appart 113 Bordeaux, Amgueddfa Ddylunio – Llundain, Cyswllt Celf Powys ac amryw o ysgolion.
Ers pa mor hir ydych chi wedi byw yn Wrecsam?
Cefais fy magu yn Swydd Efrog ac es i wneud fy ngradd yng Nghaer. Symudais i Wrecsam yn 2011 o Toulouse, Ffrainc, lle’r oeddwn wedi bod yn gwneud gwaith ac yn addysgu. Roeddwn i wedi bwriadu aros yma am flwyddyn ond yn fuan iawn dechreuais ddod yn rhan o gymuned gelfyddydol a cherddorol groesawgar a llawn bwrlwm. Nawr, dros chwe blynedd yn ddiweddarach, Wrecsam yw fy nghartref 100%.
Beth yw’ch ymgysylltiad â bywyd artistig Wrecsam ar hyn o bryd?
Rwyf wedi bod yn ddeiliad stiwdio yn Undegun ers iddo agor yn 2013 ac roeddwn yn aelod o’r pwyllgor Polisi Artistig gwreiddiol. Mae gennyf stiwdio yn Undegun o hyd ond mae fy arferion artistig presennol yn bwydo i mewn i fy null Cyfarwyddo Creadigol yn Nhŷ Pawb i raddau helaeth – archwilio’r syniad o orgyffwrdd rhwng gofodau orielau a gofodau manwerthu.
Beth yw’r dull gwaith fel Cyfarwyddwr Creadigol yn Nhŷ Pawb?
Fel Arweinydd Celfyddydau Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Oriel Wrecsam / Tŷ Pawb, mae fy null gwaith yr un fath ag yr oedd pan oeddwn yn Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu yn y bôn; dylunio a darparu rhaglen artistig sydd o fudd gwirioneddol i gymunedau Wrecsam, sy’n dod â dylanwadau ac arbenigedd i mewn o bob cwr o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â chydweithio’n agos â phartneriaid ac artistiaid lleol.
Sut fywyd gwaith sydd gennych chi ar hyn o bryd?
Rydw i a’r tîm yn Oriel Wrecsam yn gweithio’n galed i ailddatblygu cyfalaf Marchnad Y Bobl ar hyn o bryd, yn ogystal â rhoi rhaglen gelfyddydol at ei gilydd ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf ar ôl i ni agor.
Mae hyn yn cynnwys prosiectau partneriaethau arwyddocaol ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r rhaglen, a fydd yn cael ei rhyddhau’r mis nesaf.
Un ffocws allweddol yn y rhaglen gelfyddydol dros y ddwy flynedd gyntaf fydd cydfodolaeth y celfyddydau a’r marchnadoedd o dan yr un to. Rydym yn edrych ar ffyrdd creadigol y gall y rhaglen gelfyddydol gefnogi’r farchnad, ac i’r gwrthwyneb hefyd.
Pam fod rhaid i chi gynllunio’r rhaglen mor bell ymlaen llaw?
Bydd angen i ni gynllunio’r rhaglen gelfyddydol i Dŷ Pawb am o leiaf dwy flynedd o flaen llaw. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ffordd yr ydym yn cael ein hariannu, a hefyd oherwydd maint y rhaglen. Gall yr arddangosfeydd uchelgeisiol yr ydym yn eu cynllunio gymryd o leiaf dwy flynedd i’w cynllunio, p’un a ydynt yn cael eu cynhyrchu yn fewnol neu eu prynu i mewn o sefydliadau eraill.
Wedi dweud hynny, rydym yn awyddus i gael cwmpas yn y rhaglen arddangosfeydd i ymateb i flaenoriaethau lleol, a gyda hynny yn y cof rydym wedi cynnwys nifer o fylchau rhwng arddangosfeydd ar y rhaglen. Bydd y cyfnodau hyn yn para hyd at bedair wythnos pan fydd gwagleoedd orielau yn cael eu defnyddio gan grwpiau lleol. Byddwn yn gallu rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y rhain yn gweithio a sut i gymryd rhan dros y misoedd nesaf.
A oes ffordd i’r gymuned gelfyddydol ganfod mwy am Dŷ Pawb a’r rhaglen gelfyddydau?
Oes – mae fy nghydweithiwr James Harper (curadur yn Oriel Wrecsam / Tŷ Pawb) a minnau wedi bod yn cynnal Grŵp Rhanddeiliaid Celfyddydau yn Undegun, 11 Stryt Y Rhaglaw. Cynhelir y nesaf ar 8 Tachwedd am 6pm ac mae croeso i bawb fynychu.
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU