Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chyfarwyddwr Creadigol newydd Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chyfarwyddwr Creadigol newydd Tŷ Pawb
Pobl a lleY cyngor

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chyfarwyddwr Creadigol newydd Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: 2017/10/25 at 3:54 PM
Rhannu
Darllen 8 funud
Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chyfarwyddwr Creadigol newydd Tŷ Pawb
RHANNU

Ers cyhoeddi enw dewisedig yr adeilad, mae diddordeb wedi cynyddu’n fawr yn natblygiad newydd Tŷ Pawb, a fydd yn dod â’r celfyddydau, marchnadoedd a gwaith cymunedol at ei gilydd yn hen adeilad Marchnad y Bobl ar Stryt Y Farchnad.

Cynnwys
Beth yw’ch rôl mewn perthynas â Thŷ Pawb?Ers pryd ydych chi wedi bod yn y swydd hon?Beth yw’ch cefndir artistig a beth oeddech chi yn ei wneud cyn i chi ddechrau gweithio yn Oriel Wrecsam?Ers pa mor hir ydych chi wedi byw yn Wrecsam?Beth yw’ch ymgysylltiad â bywyd artistig Wrecsam ar hyn o bryd?Beth yw’r dull gwaith fel Cyfarwyddwr Creadigol yn Nhŷ Pawb?Sut fywyd gwaith sydd gennych chi ar hyn o bryd?Pam fod rhaid i chi gynllunio’r rhaglen mor bell ymlaen llaw?A oes ffordd i’r gymuned gelfyddydol ganfod mwy am Dŷ Pawb a’r rhaglen gelfyddydau?

Mae diwedd y prosiect ac agoriad y cyfleuster newydd yn nesáu a bydd digwyddiad mawr yn cael ei gynnal i nodi’r agoriad ar Ddydd Llun Pawb.  Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn hen Farchnad y Bobl wedi ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2018.

Wrth i fomentwm y prosiect gryfhau, felly hefyd y mae’r ffocws ar beth fydd Tŷ Pawb yn ei gyflawni i Wrecsam.  Mae diddordeb mawr yn ochr gelfyddydol y prosiect a beth y gellir ei ddisgwyl o’r arddangosfeydd a digwyddiadau eraill a gynhelir yn y datblygiad yn y dyfodol.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae gan Wrecsam leoliad celfyddydol prysur yn barod gyda phrosiect THIS ar safle Undegun ar Stryt Y Rhaglaw yn denu llawer o sylw ac yn boblogaidd iawn.

Oherwydd pwysigrwydd y celfyddydau yn Wrecsam a’r rhan fawr y bydd hynny yn ei chwarae yn Nhŷ Pawb, aethom draw i siarad â Jo March, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Oriel Wrecsam.

Bydd Jo yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb pan fydd yn agor yng ngwanwyn 2018.  Cawsom sesiwn holi ac ateb sydyn â hi er mwyn dal i fyny a chanfod mwy am bwrpas ei rôl newydd a pha gynlluniau sydd ganddi ar gyfer datblygiad yn y dyfodol.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chyfarwyddwr Creadigol newydd Tŷ Pawb
Jo Marsh

Beth yw’ch rôl mewn perthynas â Thŷ Pawb?

Fi yw Arweinydd Celfyddydau CBSW a Chyfarwyddwr Creadigol Oriel Wrecsam a byddaf yn Gyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb (lle ar gyfer celfyddydau, marchnadoedd a’r gymuned) pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf yn hen adeilad Marchnad Y Bobl.

Ers pryd ydych chi wedi bod yn y swydd hon?

Cefais y swydd ym mis Ionawr 2017.  Cyn hynny roeddwn yn Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu i Oriel Wrecsam.

Beth yw’ch cefndir artistig a beth oeddech chi yn ei wneud cyn i chi ddechrau gweithio yn Oriel Wrecsam?

Artist hunangyflogedig ac addysg celfyddydol yw fy nghefndir; mae fy ngwaith yn cynnwys cerfluniau, gwaith ffilm a phrosiectau sy’n cynnwys artistiaid eraill a’r cyhoedd.

Rhywfaint o fy ngwaith blaenorol yw prosiect o’r enw With Love From The Artist (www.withlovefromtheartist.com) a enillodd Wobr Gelf Woolgather yn 2011; ac oriel deithiol o’r enw WanderBox a adeiladais er mwyn creu sioe deithiol gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru (www.wanderbox.org).

Rwyf wedi gweithio fel addysgwr celfyddydau llawrydd i Oriel Wrecsam, Oriel Davies, Oriel Appart 113 Bordeaux, Amgueddfa Ddylunio – Llundain, Cyswllt Celf Powys ac amryw o ysgolion.

Ers pa mor hir ydych chi wedi byw yn Wrecsam?

Cefais fy magu yn Swydd Efrog ac es i wneud fy ngradd yng Nghaer. Symudais i Wrecsam yn 2011 o Toulouse, Ffrainc, lle’r oeddwn wedi bod yn gwneud gwaith ac yn addysgu. Roeddwn i wedi bwriadu aros yma am flwyddyn ond yn fuan iawn dechreuais ddod yn rhan o gymuned gelfyddydol a cherddorol groesawgar a llawn bwrlwm.  Nawr, dros chwe blynedd yn ddiweddarach, Wrecsam yw fy nghartref 100%.

Beth yw’ch ymgysylltiad â bywyd artistig Wrecsam ar hyn o bryd?

Rwyf wedi bod yn ddeiliad stiwdio yn Undegun ers iddo agor yn 2013 ac roeddwn yn aelod o’r pwyllgor Polisi Artistig gwreiddiol. Mae gennyf stiwdio yn Undegun o hyd ond mae fy arferion artistig presennol yn bwydo i mewn i fy null Cyfarwyddo Creadigol yn Nhŷ Pawb i raddau helaeth – archwilio’r syniad o orgyffwrdd rhwng gofodau orielau a gofodau manwerthu.

Beth yw’r dull gwaith fel Cyfarwyddwr Creadigol yn Nhŷ Pawb?

Fel Arweinydd Celfyddydau Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Oriel Wrecsam / Tŷ Pawb, mae fy null gwaith yr un fath ag yr oedd pan oeddwn yn Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu yn y bôn; dylunio a darparu rhaglen artistig sydd o fudd gwirioneddol i gymunedau Wrecsam, sy’n dod â dylanwadau ac arbenigedd i mewn o bob cwr o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â chydweithio’n agos â phartneriaid ac artistiaid lleol.

Sut fywyd gwaith sydd gennych chi ar hyn o bryd?

Rydw i a’r tîm yn Oriel Wrecsam yn gweithio’n galed i ailddatblygu cyfalaf Marchnad Y Bobl ar hyn o bryd, yn ogystal â rhoi rhaglen gelfyddydol at ei gilydd ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf ar ôl i ni agor.

Mae hyn yn cynnwys prosiectau partneriaethau arwyddocaol ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r rhaglen, a fydd yn cael ei rhyddhau’r mis nesaf.

Un ffocws allweddol yn y rhaglen gelfyddydol dros y ddwy flynedd gyntaf fydd cydfodolaeth y celfyddydau a’r marchnadoedd o dan yr un to. Rydym yn edrych ar ffyrdd creadigol y gall y rhaglen gelfyddydol gefnogi’r farchnad, ac i’r gwrthwyneb hefyd.

Pam fod rhaid i chi gynllunio’r rhaglen mor bell ymlaen llaw?

Bydd angen i ni gynllunio’r rhaglen gelfyddydol i Dŷ Pawb am o leiaf dwy flynedd o flaen llaw. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ffordd yr ydym yn cael ein hariannu, a hefyd oherwydd maint y rhaglen. Gall yr arddangosfeydd uchelgeisiol yr ydym yn eu cynllunio gymryd o leiaf dwy flynedd i’w cynllunio, p’un a ydynt yn cael eu cynhyrchu yn fewnol neu eu prynu i mewn o sefydliadau eraill.

Wedi dweud hynny, rydym yn awyddus i gael cwmpas yn y rhaglen arddangosfeydd i ymateb i flaenoriaethau lleol, a gyda hynny yn y cof rydym wedi cynnwys nifer o fylchau rhwng arddangosfeydd ar y rhaglen. Bydd y cyfnodau hyn yn para hyd at bedair wythnos pan fydd gwagleoedd orielau yn cael eu defnyddio gan grwpiau lleol. Byddwn yn gallu rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y rhain yn gweithio a sut i gymryd rhan dros y misoedd nesaf.

A oes ffordd i’r gymuned gelfyddydol ganfod mwy am Dŷ Pawb a’r rhaglen gelfyddydau?

Oes – mae fy nghydweithiwr James Harper (curadur yn Oriel Wrecsam / Tŷ Pawb) a minnau wedi bod yn cynnal Grŵp Rhanddeiliaid Celfyddydau yn Undegun, 11 Stryt Y Rhaglaw. Cynhelir y nesaf ar 8 Tachwedd am 6pm ac mae croeso i bawb fynychu.

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU

Rhannu
Erthygl flaenorol Chwilio am Gardiau Nadolig? Mae gan Eglwys San Silyn y cyfan i chi, ac i gyd er budd Elusen Chwilio am Gardiau Nadolig? Mae gan Eglwys San Silyn y cyfan i chi, ac i gyd er budd Elusen
Erthygl nesaf Wrexham Council consultation Gadewch i’r gweddill gael dweud eu dweud ar sut rydym am arbed £13m (neu beidio…)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English