Weithiau bydd cynhyrchion bwyd yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad, a hynny am fod gwybodaeth am alergenau ar goll neu’n anghywir, neu fod halogiad â phathogenau a allai achosi gwenwyn bwyd, neu am fod namau gweithgynhyrchu yn golygu bod metel neu blastig yn y bwyd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwybod am y rhybuddion galw bwyd yn ôl a’r rhybuddion alergedd diweddaraf. Diogelwch eich hun a’ch teulu trwy gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhad ac am ddim yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae’n hawdd:
- Defnyddiwch ein tudalen bwrpasol i danysgrifio
- Gallwch ddewis pa wybodaeth rydych am ei gael, er enghraifft rhybuddion galw bwyd yn ôl, rhybuddion alergedd, neu’r ddau.
- Dewiswch a hoffech gael y rhybudd trwy neges destun, e-bost, neu’r ddau
Byddwch yn cael gwybod pan fyddwn yn cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl. Bydd y neges yn rhoi gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych wedi prynu’r cynnyrch dan sylw.
Ewch ati i danysgrifio nawr: Tanysgrifio i newyddion a rhybuddion | Asiantaeth Safonau Bwyd
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen A fyddech chi’n gwybod pe bai cynnyrch bwyd a brynwyd gennych yn cael ei alw’n ôl?