Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae tîm Lleoedd Diogel yn falch o gynnal Disgo Tawel ac Arddangosfa Tân Gwyllt* gyda sŵn tawel eto, ddydd Sul 12 Tachwedd 4pm – 8pm yng Nghanolfan Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo.
Fe fydd yna fwyd poeth a diodydd ar gael i’w prynu a llawer o wybodaeth a stondinau marchnad.
Mae’r tocynnau yn £5 y pen neu’n £18 am docyn teulu i 4.
Mae tocynnau ar gael o’r Hwb Lles, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG neu Dy Le Di, Canolfan Adnoddau Parc Llai, Sgwâr y Farchnad, Llai, LL12 0SA.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: safeplaces@wrexham.gov.uk
* Bydd y tân gwyllt yn dawel, ond ddim yn hollol ddistaw.
Beth yw’r Cynllun Lleoedd Diogel?
Mae’r Cynllun Lleoedd Diogel yn cynnig sicrwydd i bobl allai deimlo’n ddiamddiffyn wrth fynd allan, gan eu helpu i fyw bywydau mwy annibynnol.
Mae gwybod bod Lleoedd Diogel yn eu cymunedau sy’n cynnig cymorth os oes angen, yn cynorthwyo pobl i deimlo’n ddiogel ac yn fwy hyderus wrth fynd allan i’w cymunedau.
Gallwch ddysgu mwy yma.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen “Perl ddiwylliannol” – Mwy o ganmoliaeth ryngwladol i Tŷ Pawb