Rydym wedi gwirioni cael cyhoeddi’r dyddiadau cyntaf yn ein sioe deithiol i ofalwyr di-dâl.
Nod y sioe yw cyrraedd cymaint o bobl â phosibl yn Wrecsam i hyrwyddo’r gwasanaethau y mae GOGDdC (NEWCIS) yn eu cynnig i ofalwyr di-dâl yn ogystal â tynnu sylw at y wybodaeth, cymorth a dewisiadau sydd ar gael o ran seibiant.
Y dyddiadau cyntaf yw:
21 Mehefin, 9.30am-12.30pm – Neuadd Blwyf y Waun
6 Gorffennaf, 9am-12pm – Canolfan Adnoddau Acton
12 Gorffennaf, 10am-12.30pm – Llyfrgell Rhos
7 Gorffennaf, 9.30am-3.30pm Plas Pentwyn, Coedpoeth
Cofiwch, os hoffech chi gael cyngor, cymorth neu wybodaeth, gallwch gysylltu â GOGDdC neu fynd i wefan GOGDdC.
Mae hi’n Wythnos Gofalwyr yr wythnos hon (5-11 Mehefin)
Yr wythnos hon, mae elusennau, sefydliadau ac unigolion yn dod at ei gilydd i ddangos cefnogaeth i’r miliynau o ofalwyr di-dâl yn y DU.
Yn Wrecsam yn unig, (yn ôl data’r cyfrifiad diwethaf), mae dros 13,000 o ofalwyr di-dâl. Rydym yn gwneud ein gorau glas i gefnogi ein gofalwyr di-dâl a’r wythnos hon, rydym eisiau annog pawb sy’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog i gysylltu â GOGDdC (NEWCIS) i gael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.