Bydd Sgwâr y Frenhines yn gartref i gopi enfawr 72 troedfedd o roced LauncherOne rhwng 14 a 18 Medi pan fydd Asiantaeth Ofod y DU yn dod â’u taith ‘Space for Everyone’ i Wrecsam.
Bydd yno hefyd brofiadau rhith-wirionedd (VR), cyngor gyrfaoedd gan weithwyr proffesiynol lleol ym maes y gofod a llawer o weithgareddau gofod, a bydd am ddim i bawb.
Mae teithiau i grwpiau ar gael ac rydym yn argymell i chi ddod i’r digwyddiad fel grŵp a mwynhau taith bersonol o’i amgylch gydag un o’n tywyswyr. Isafswm o 10 o bobl ar bob taith. I archebu slot amser am daith i grŵp, anfonwch e-bost at hello@ha-lo.co gyda’ch dewis o amser/dyddiad.
Mae’r fenter gyffrous hon yn ceisio ennyn diddordeb ac addysgu’r genhedlaeth nesaf am y gofod, gan arddangos llwyddiant diwydiant gofod y DU a’r amryw gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ynddo.
Mae sefydliadau gofod a phartneriaid STEM allweddol, yn cynnwys Space Hub Yorkshire, North East Space Cluster, Gofod Cymru, Orbex, Skyrora a’r World Wide Fund for Nature, wedi cefnogi’r daith ar draws gwahanol ranbarthau, yn pwysleisio diwydiant gofod llewyrchus y DU a’i effaith ar fywydau bob dydd.
Mae taith ‘Space for Everyone’ yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth ac yn taflu goleuni ar rôl hollbwysig diwydiant y gofod i wella bywyd ar y Ddaear. Bydd cyfle unigryw i ymwelwyr, yn cynnwys plant, teuluoedd ac athrawon, weld â’u llygaid eu hunain sut mae technolegau’r gofod o fudd i’n bywydau bob dydd ni, ac i gael golwg ar yr ymdrechion i archwilio dirgelwch y gofod.
“Mae taith ‘Space for Everyone’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol”
Dywedodd Matt Archer, Cyfarwyddwr Lansio yn Asiantaeth Ofod y DU, “Mae taith ‘Space for Everyone’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae teuluoedd, ysgolion a phobl ifanc wedi cael cyfle i fod yn agos iawn at roced a hefyd i ddysgu am rôl diwydiant y gofod yn ein bywydau bob dydd.
“Mae sector gofod y DU ar flaen y gad ac rydym ni angen pobl o bob cefndir gyda phob gwahanol sgil i weithio ynddo. Trwy arddangos y sector a’r amrywiaeth o lwybrau gyrfa cyffrous sydd ar gael, gallwn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau i droi eu golygon at y gofod.”
Mae ‘Space for Everyone’ yn argoeli i fod yn brofiad i’ch trochi ym mhopeth yn ymwneud â’r gofod, gyda phensetiau rhith-wirionedd o’r radd flaenaf i roi blas i chi ar lansio roced o’r DU a’r holl swyddi sydd ynghlwm â gwneud i hynny ddigwydd. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau gwahanol ardaloedd rhyngweithiol, gan ddysgu am rôl allweddol lloerennau a darganfod y llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael yn niwydiant gofod y DU.
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio, “Bydd y digwyddiad gwych yma’n hwb enfawr i ddenu pobl i Wrecsam ac mae’n brawf o ba mor enwog yw Wrecsam bellach fel lle ar gyfer digwyddiadau mawr. Rydw i’n gobeithio gweld llawer o deuluoedd yn mwynhau’r digwyddiad, a chael eu hysbrydoli gan bethau maent yn eu gweld a’u dysgu.”
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Bwriad y daith arbennig yma ydi ysbrydoli pobl ifanc i gamu i ddiwydiant gofod y DU – rhywbeth oedd yn freuddwyd i lawer ohonom pan oeddem ni’n iau, ond prin oedd y cyfleoedd. Rŵan, mae pobl ifanc yn Wrecsam yn gallu gweld drostyn nhw eu hunain pa yrfaoedd sydd ar gael i fynd amdanynt pan maent yn hŷn.” Am fwy o wybodaeth am daith ‘Space for Everyone’, ewch i https://spaceperson.co.uk/rocket-tour/ neu ddilyn @spacegovuk ar y cyfryngau cymdeithasol.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Mae Castanwydden Ber Wrecsam Wedi Cyrraedd y Rhestr Fer Ar Gyfer Gwobr “Coeden y Flwyddyn” Coed Cadw