‘Spice.’ ‘Mamba.’ Cyffuriau Cyfreithlon.
Nid oedd y geiriau hyn yn golygu fawr ddim i ni ychydig flynyddoedd yn ôl.
Ond maent bellach yn gyfystyr â phroblem sy’n effeithio ar drefi a dinasoedd ar draws y DU. Y broblem ddybryd hon yw cyffuriau synthetig.
Yn debyg i lawer o ardaloedd eraill, mae Wrecsam hefyd yn brwydro i ddelio â’r broblem – tasg anodd dros ben.
Mae’r cyffuriau hyn yn rhatach, ac yn aml yn llawer cryfach na chanabis a heroin. Maent hefyd yn haws i’w cael, ac yn anoddach i’w canfod.
Ond pam felly?
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cyffuriau cemegol
Nid yw’r cyffuriau hyn wedi’u gwneud o blanhigion. Yn hytrach, maent wedi’u gwneud o gemegau ac yn cael eu creu a’u gwerthu mewn siapiau a meintiau amrywiol (yn aml maent yn edrych yn debyg i bethau eraill – fel bwyd planhigion).
Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i wybod os yw cynnwys bag, sydd yn edrych ychydig yn amheus, yn anghyfreithlon, heb ei anfon i’r labordy i’w brofi.
Felly, yn aml mae’n anoddach plismona’r cyffuriau hyn na’r cyffuriau ‘traddodiadol’.
Efallai bod hyn hefyd yn egluro pam eu bod yn llawer mwy amlwg ar ein strydoedd na chyffuriau eraill, megis heroin. O bosib bod yr unigolion sy’n cymryd y cyffuriau hyn yn poeni llai am eu cymryd yn gyhoeddus.
Roedd llawer o’r sylweddau sydd bellach wedi’u gwahardd, sydd i’w cael yn y cyffuriau hyn, yn gyfreithlon tan y llynedd – sy’n egluro’r enw ‘cyffuriau cyfreithlon’.
Ond nid ydynt yn gyfreithlon erbyn hyn, felly mae’r enw ‘cyffuriau cyfreithlon’ yn gamarweiniol.
Mae hi sicr yn sefyllfa gymhleth iawn, ac nid oes datrysiad hawdd i’w gael, ond mae llawer o bobl yn parhau i chwilio am ddatrysiad.
A welsoch chi Wales this Week?
Mewn rhaglen ddiweddar a ddarlledwyd ar ITV Cymru rhoddwyd cipolwg ar brofiadau swyddogion yr heddlu o ddydd i ddydd yng nghanol tref Wrecsam.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Dave Jolly, a gafodd ei gyfweld yn ystod y rhaglen: “Rwyf wedi bod yn swyddog heddlu am gyfnod hir iawn ac mae hon yn un o’r heriau mwyaf i ni eu hwynebu.
“Ond rydym yn gweithio gyda’r cyngor, y gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio rheoli’r broblem.”
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys Caerdydd ac Abertawe. Nid yw’n rhaglen hawdd i’w gwylio ond mae’n dangos gwir gymhlethdodau’r broblem a’r holl waith sydd eisoes yn mynd rhagddo.
Gwaith ar lawr gwlad
Mae gwaith yr heddlu, sydd i’w weld yn rhaglen Wales this Week yn un enghraifft o’r gwaith sy’n digwydd ar lawr gwlad.
Dros y misoedd nesaf, byddwn ysgrifennu am bobl eraill sy’n ceisio helpu i reoli’r broblem – gweithwyr iechyd, gwirfoddolwyr, gweithwyr cyngor ac ati.
Byddwn hefyd yn trafod y broblem o safbwynt defnyddwyr, y cyhoedd a busnesau lleol.
“Gweithio gyda’n gilydd…”
Mae hon yn broblem gymhleth iawn ac mae’r cyngor, yr heddlu, y GIG, y gwasanaethau brys a’r trydydd sector yn tynnu at ei gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Chymuned yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’r broblem hon yn fwy na ni. Mae’n fwy nag unrhyw sefydliad unigol.
“Dyma pam rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac yn cyd-lynu adnoddau.
Efallai bod llawer o’r farn nad ydym yn gwneud unrhyw gynnydd, a hawdd yw deall pam – maent yn dod i ganol tref Wrecsam ac yn gweld pobl â’u bywydau wedi’u dinistrio o achos cyffuriau.
“Ond rydym yn sicr yn gwneud cynnydd ac mae llawer o bobl yn gwneud gwaith ardderchog – swyddogion, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill.
“Rhaid i ni gyd weithio gyda’n gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI