Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Storio bwyd yn ddiogel – rhywbeth i feddwl amdano….
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Storio bwyd yn ddiogel – rhywbeth i feddwl amdano….
Y cyngor

Storio bwyd yn ddiogel – rhywbeth i feddwl amdano….

Diweddarwyd diwethaf: 2022/03/10 at 4:02 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Food Storage
RHANNU

Pan fyddwch yn mynd i wneud eich siopa wythnosol, ydych chi’n meddwl am sut y byddwch yn storio’r bwyd yr ydych yn ei brynu ar ôl dod adref? Mae storio eich bwyd yn ddiogel yn bwysig iawn i’ch iechyd a iechyd eich teulu, ac mae’n ffordd dda o osgoi gwastraff bwyd heb angen.

Yn dilyn ein Harolwg Gwastraff Bwyd, sydd wedi cael ei llenwi gan dros 1,850 o breswylwyr, roedd 45% o bobl wedi dweud wrthym fod eu bwyd wedi mynd yn hen cyn eu dyddiadau defnydd/ dyddiad ar ei orau cyn.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Yn ogystal â hyn, dywedodd llai na 35% nad oedd pawb yn eu haelwyd yn bwyta eu holl prydau, bod dros 15% yn coginio gormod, a bod dros 15% yn dweud bod aelodau o’r teulu yn newid eu cynlluniau (h.y. ddim yn cael swper).

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Yn sicr felly mae digon o le i wella.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell: “Mae meddwl am bethau fel tymheredd, y deunyddiau gwahanol y gallwch gadw eich bwyd, a meddwl os ellir rhewi bwyd bob amser yn ffyrdd a fydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel a sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’ch eitemau bwyd. Does neb eisiau lluchio bwyd ar ôl talu arian da amdanynt, felly mae’n syniad da i geisio deall y ffyrdd orau i storio’r mathau gwahanol o fwyd yr ydych yn ei brynu i osgoi gwastraff.”

Cadw bwyd yn eich oergell

Os yw’r label yn dweud ‘keep refrigerated’, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r bwyd yn yr oergell! Os nad yw’r bwyd wedi’i labelu gydag unrhyw gyfarwyddiadau storio, ac mae’n fath o fwyd sy’n mynd yn hen yn gyflym, dylech ei roi yn yr oergell a’i fwyta o fewn dau ddiwrnod.

Mae angen cadw rhai jariau neu foteli yn yr oergell ar ôl eu hagor hefyd… edrychwch ar y label a dilynwch y cyfarwyddiadau storio.

Awgrymiadau eraill i storio bwyd yn eich oergell:

  • wrth baratoi bwyd, peidiwch â gadael y bwyd allan o’r oergell am amser rhy hir, yn arbennig os yw’r tywydd neu’r ystafell yn gynnes
  • os ydych wedi gwneud bwyd (megis brechdan neu bryd oer) ac nid ydych am ei fwyta yn syth, cadwch nhw yn yr oergell tan y byddwch yn barod i’w fwyta
  • os ydych yn cael parti neu’n gwneud bwffe, gadewch y bwyd yn yr oergell tan fydd pobl yn barod i fwyta (ni ddylech adael bwyd y tu allan i’r oergell am fwy na phedair awr)
  • oerwch sbarion mor gyflym â phosib (o fewn dwy awr os yw’n bosib) ac yna eu storio yn yr oergell
  • bwytwch unrhyw sbarion o fewn dau ddiwrnod, ar wahân i reis sydd wedi’i goginio, dylech ei fwyta o fewn un diwrnod i osgoi cael gwenwyn bwyd.

Cig

Mae’n bwysig storio cig yn ddiogel i stopio bacteria rhag lledaenu ac i osgoi gwenwyn bwyd. Dylech:

  • storio cig amrwd a dofednod mewn cynwysyddion wedi selio sy’n lân ac wedi selio ar y silff gwaelod yr oergell, fel nad ydynt yn cyffwrdd na diferu ar fwyd arall.
  • Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label a pheidiwch â bwyta cig ar ôl y dyddiad defnydd.
  • pan fyddwch wedi coginio cig ond ddim am ei fwyta’n syth, oerwch mor gyflym â phosib ac yna ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell.
  • cadwch gig wedi’i goginio ar wahân i gig amrwd.

Rhewi bwyd

Gallwch gadw bwyd yn ddiogel yn y rhewgell am flynyddoedd, cyhyd â’i fod yn aros wedi rhewi drwy’r amser  Ond mae blas a gwead bwyd yn newid os bydd yn cael ei rewi am amser hir, felly efallai byddwch yn teimlo nad yw’n neis iawn i’w fwyta.

Gallwch wirio unrhyw gyfarwyddiadau ar labeli bwyd neu yn llawlyfr eich rhewgell (os nad oes gennych hwn mwyach yna efallai gallwch ddod o hyd iddo ar-lein) i weld pa mor hir y dylai bwyd gael ei rewi.

Mae’n ddiogel rhewi y rhan fwyaf o fwydydd amrwd neu wedi’u coginio, os ydych wedi:

  • ei rewi cyn dyddiad ‘defnyddio’
  • yn dilyn cyfarwyddiadau rhewi neu ddadrewi sydd ar y label
  • ei dadrewi yn yr oergell fel nad yw’n gor-gynhesu, neu os ydych yn bwriadu ei goginio yn syth ar ôl ei dadrewi, gallwch ei ddadrewi yn y microdon.
  • ceisio defnyddio o fewn un neu ddau ddiwrnod ar ôl ei ddad-rewi – bydd yn mynd yn hen yr un ffordd petai’n fwyd ffres
  • coginiwch fwyd nes y bydd yn boeth iawn drwyddo i gyd

Pan fydd cig a physgod wedi’u rhewi (a rhai bwydydd eraill) yn dadrewi, mae llawer o hylif yn dod allan ohonynt. Os ydych yn dad-rewi cig neu bysgodyn amrwd, bydd yr hylif hwn yn lledaenu bacteria i unrhyw fwyd, platiau neu arwynebedd y mae’n ei gyffwrdd. Cadwch gig amrwd a physgod mewn cynwysyddion wedi selio sy’n lân ac wedi selio ar y silff gwaelod yr oergell, fel nad ydynt yn cyffwrdd na diferu ar fwyd arall.

Golchwch blatiau, llestri, arwynebedd a dwylo yn drylwyr, ar ôl iddynt gyffwrdd cig amrwd neu gig sydd yn dadrewi, i atal bacteria rhag lledaenu.

Os ydych yn dadrewi cig neu bysgod ac yna eu coginio’n drwyadl, gallwch eu rhewi eto, ond cofiwch peidiwch ag ailgynhesu bwyd mwy nag unwaith.

Gwybodaeth ddefnyddiol? Bydd Rhan 2 yn dod yfory.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH

Rhannu
Erthygl flaenorol Mayor Visits Britain's Youngest Blacksmiths Y Maer yn ymweld â Gofaint Ifanc sy’n Creu Dyfodol Disglair
Erthygl nesaf Cold Caller Annog Tennantiad y cyngor I ddweud “na” wrth alwyr digroeso

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 3, 2025
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English