Biniau
Bydd casgliadau arferol ar draws Wrecsam yfory (h.y. bydd casgliadau ar Ddydd Gwener yn parhau).
Sicrhau os gwelwch yn dda bod eich holl ailgylchu a gwastraff cyffredin/ gwastraff gwyrdd yn barod am 07.30am
Parciau Gwledig
Cofiwch beidio mynd i’n barciau gwledig neu Barc Bellevue Yfory.
Cymerwch ofal ychwanegol i osgoi llefydd gyda llawer o goed y gall cael eu heffeithio gan y storm.
Teithio
Mae holl wasanaethau trên Cymru wedi’u dileu gan Network Rail / Trafnidiaeth Cymru ac mae’r holl gludiant ysgol wedi’i ganslo oherwydd bod adeiladau’r ysgolion ar gau.
Cynghorir aelodau’r cyhoedd i beidio â theithio oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Wrecsam:
Rydym yn paratoi ar gyfer y gwaethaf a bydd ein gwasanaethau strydwedd yn gweithredu fel arfer ac mae trefniadau wrth gefn yn eu lle.
Byddwch yn ymwybodol o ragolygon y tywydd a chymerwch ofal yn y gartref yn ôl yr angen i fod mor ddiogel â phosibl. Er enghraifft, ceisiwch osod dodrefn gardd mewn siediau neu mewn garej.
Nodyn atgoffa – sut i roi gwybod am faterion
Er ein bod yn gobeithio y bydd Wrecsam yn osgoi’r tywydd gwaethaf, gallwch roi gwybod i’r cyngor am unrhyw faterion (e.e. difrod storm, coed wedi cwympo ac ati) trwy ffonio’r rhifau canlynol:
- Oriau swyddfa (8.30am-5pm) 01978 298989
- Y tu allan i oriau swyddfa 01978 292055
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105 (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
Storm Eunice – Ysgolion Wrecsam yn symud i ddysgu ar-lein ddydd Gwener (18 Chwefror)