Oeddech chi’n gwybod bod criwiau, grwpiau neu rwydweithiau troseddol sy’n cyflenwi cyffuriau ar draws y rhanbarth yn defnyddio oedolion a phlant diamddiffyn i symud neu storio’r cyffuriau? Yn aml maent yn defnyddio bygythiad, trais neu arfau, gan gynnwys cyllyll a dryllau.
Yn aml, mae gan y dioddefwyr sy’n cael eu hecsbloetio yr un amgylchiadau â’r troseddwyr sy’n gallu cynnwys bod yn gaeth i gyffuriau, alcoholig neu yfed o dan oed, problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, dod o gefndir difreintiedig, ar goll o’u cartrefi, triwantiaid neu hyd yn oed plant sy’n derbyn gofal.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’r ma têr, sy’n cael ei enwi’n “Linellau Sirol” a “Meddiannu Cartrefi Pobl Ddiamddiffyn i Werthu Cyffuriau” yn cael ei amlygu ar Sgwâr y Frenhines yfory (24 Mawrth 2018) pan fydd Uned Trosedd a Drefnwyd yn Rhanbarthol yn y Gogledd Orllewin (TITAN) mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio actorion i ail-greu senarios a welwyd gan yr heddlu lle mae ecsbloetio o’r fath wedi digwydd.
Mae’r perfformiadau’n dechrau am 11.15pm a byddant yn rhedeg bob awr.
Mae’r ymgyrch yn cael ei ddatblygu i greu dull amlasiantaeth sy’n targedu pobl ifanc, rhieni, y cyhoedd, staff cartref gofal, swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac athrawon i greu pwynt siarad am arwyddion a throthwy ar gyfer oedolion a phobl ifanc diamddiffyn sy’n cael eu hecsbloetio i ddarparu cyffuriau a’r dulliau adrodd perthnasol.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Allan Barr, Pennaeth TITAN: “Bydd y digwyddiad hwn yn ffordd rhyngweithiol ac effeithiol i amlygu’r mater Llinellau Sirol i bobl Gogledd Cymru a sut i adnabod yr arwyddion posibl bod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn cael ei ecsbloetio’n droseddol.
“Mae’r mater Llinellau Sirol yn cael ei wasgaru ar draws y rhanbarth ac ymhellach draw a thrwy weithio gyda phob cymuned, lluoedd a phartneriaid rydym yn dymuno addysgu rhieni, athrawon, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ynglŷn â sut i adnabod rhai o’r arwyddion bod pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn yn cael eu defnyddio i ddarparu cyffuriau a sut y gallwch roi gwybod i asiantaethau perthnasol.
“Rydym hefyd yn dymuno estyn allan at y bobl ddiamddiffyn hynny ar sut y gallant osgoi bod yn darged ar gyfer y grwpiau troseddol hyn a sut i gael cymorth.
“Mae gwybodaeth gan ein cymunedau yn allweddol i’r heddlu gael gwared ar y criwiau sy’n gyfrifol am yr allforio trosedd ac ecsbloetio pobl ddiamddiffyn, felly byddwn yn annog unrhyw un â phryderon am bobl ddiamddiffyn sy’n cael eu targedu fel hyn i ddod ymlaen a siarad gyda ni, naill ai’n uniongyrchol neu’n ddienw drwy Crimestoppers”.
Pwy yw’r dioddefwyr?
Gall y dioddefwyr fod yn unrhyw un yn eich cymuned – gallant fod mor ifanc â 10 oed neu mor hen â 90 oed – mae criwiau troseddol yn ecsbloetio bregusrwydd ym mhob ffurf:
Beth yw’r arwyddion?
Mewn plant, mae arwyddion eu bod yn dioddef ecsbloetio troseddol yn cynnwys bod ar goll o’u cartref, absennol o’r ysgol, ffrindiau newydd nad yw rhieni yn eu hadnabod, arbrofi gyda chyffuriau, canabis yn aml, mwy nag un ffôn symudol, ymddangos yn nerfus, ofnus, cyfrwys neu’n gyfrinachgar, anafiadau nad ydynt yn gallu eu hegluro, gyda thocynnau ar gyfer teithio ar drên neu fws.
Mewn oedolion, mae arwyddion yn gallu cynnwys peidio eu gweld am beth amser, ymwelwyr a cherbydau anhysbys yn eu cartref, cyfnewid arian neu becynnau y tu allan i’w cartref, defnyddio cyffuriau’n agored ar y stryd, difrod a dirywiad yn eu cartref, newid mewn personoliaeth neu ymddygiad.
Beth mae’r heddlu yn ei wneud a sut gall y cyhoedd helpu?
Mae lluoedd lleol a Titan wedi ymuno gyda Crimestoppers i godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion a’r symptomau i edrych allan amdanynt a sut gall y cyhoedd helpu i rannu gwybodaeth yn ddienw.
Os bydd pobl yn amau ei fod yn digwydd lle maen nhw’n byw dylent godi’r ffôn a ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 999 os bydd yna drosedd yn digwydd neu gallwch ffonio’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.