Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r gwasanaeth parcio a theithio yn tyfu – beth am ei ddefnyddio ar gyfer Wrecsam v Charlton
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Mae’r gwasanaeth parcio a theithio yn tyfu – beth am ei ddefnyddio ar gyfer Wrecsam v Charlton
DigwyddiadauPobl a lle

Mae’r gwasanaeth parcio a theithio yn tyfu – beth am ei ddefnyddio ar gyfer Wrecsam v Charlton

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 5, 2025 9:48 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Parking
RHANNU

Sgroliwch i lawr am fanylion yr amseroedd parcio a theithio ar gyfer dydd Sadwrn, ond daliwch ati i ddarllen i gael gwybod pam mae angen eich help arnom…

Cynnwys
  • Rhannwch y neges
  • Wrecsam v Charlton

Rhannwch y neges

Mae angen eich help arnom i ledaenu’r gair bod Cyngor Wrecsam wedi ymestyn y treial parcio a theithio ar gyfer y tymor pêl-droed hwn. Mae tua 40 o geir yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, sy’n gadael digon o le i fwy o bobl barcio’n hawdd ac yn ddiogel.

Mae tagfeydd yng nghanol y ddinas yn ogystal â pharcio anghyfreithlon a pheryglus wedi dod yn broblem fawr ar ddiwrnod gêm, yn enwedig i’r rhai sy’n byw ger y cae ras a’r rhai sy’n ceisio cael mynediad i ganol y ddinas i siopa.

Nod y gwasanaeth parcio a theithio yw atal y ddau beth hyn – mae traffig yn cael ei symud allan o ganol y ddinas ac mae eich car wedi’i barcio’n ddiogel ac yn gyfleus (cofiwch fod swyddogion gorfodi parcio o gwmpas ar ddiwrnod gêm!).

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae wedi bod yn wych gweld nifer cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn tyfu, ond mae wedi golygu mwy o alw am barcio ar ddiwrnod gêm. Mae disgwyl i hyn gynyddu eto unwaith y bydd yr eisteddle newydd wedi cael ei adeiladu. Rydym wedi gweithio gydag Arriva North West & Wales i weithredu a gwella’r gwasanaeth bws gwennol pwrpasol sy’n gweithio ar y cyd â’r parcio ar ddiwrnod gêm sydd ar gael ar ein safle yn Ffordd Rhuthun.

“Ar hyn o bryd, mae digon o leoedd o hyd ar bob diwrnod gêm a dim ond £1 yw’r bws i gael tocyn dychwelyd i Ffordd yr Wyddgrug.”

Wrecsam v Charlton

Wrecsam v Charlton | Dydd Sadwrn, Tachwedd 8 | Cic gyntaf 3pm

Cyn y gêm

Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU

Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 1pm; bws olaf 2.20pm.

Ar ôl y gêm

Bydd bysus yn rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 5pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 6.20pm.

Sylwer, yn flaenorol, roedd y bysus cyntaf ar ôl y gêm yn mynd o Dunelm Mill, ond mae gwelliannau i’r gwasanaeth yn golygu bod pob bws ar ôl y gêm bellach yn mynd o Ffordd yr Wyddgrug.

Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)

Maes parcio’n cau am 7pm.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Bonfire Night Os ydych chi’n awyddus i ddathlu noson tân gwyllt gyda’ch teulu a ffrindiau, ystyriwch ymweld ag arddangosfa sydd wedi’i threfnu.
Erthygl nesaf Bus Services Dychwelyd Gwasanaethau Bws i Newbridge, Pentre a Whitehurst.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English