Mae artist amatur o Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill gwobr fawreddog mewn arddangosfa leol.
Enillodd Austin Griffiths ‘Wobr y Bobl’ yn Arddangosfa Agored Wrecsam gyda’i baentiad o ‘Lucy’ y ci.
Y Wrecsam Agored yw arddangosfa agored fwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru. Dangoswyd dros 300 o weithiau gan 180 o artistiaid yn y ddau leoliad cyd-gynhaliol, Tŷ Pawb ac Undegun, rhwng Hydref a Rhagfyr 2018.
Penderfynwyd ar Wobr y Bobl trwy bleidlais gyhoeddus.
Cyhoeddwyd yr enillydd yn seremoni gau y digwyddiad ychydig cyn y Nadolig.
Newyddion gwych
Dywedodd Mr Griffiths: “Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am ddewis fy ngwaith i. Mae’n syndod gwych oherwydd dyma’r tro cyntaf i mi roi waith i mewn i arddangosfa agored Wrecsam.
“Dwi’n dod o Wrecsam fy hun ond wnes i ddim dechrau peintio’n iawn tan ar ôl i mi ymddeol. Roeddwn wedi gweithio ar y rheilffyrdd ac yn y ffatri celanese yn Redwither.
“Ar ôl ymddeol, dechreuais ymarfer celf llawer mwy. Ymunais â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr a hefyd ysgol haf yn Harlech.”
“Mae’r ci yn y llun, ‘Lucy’, mewn gwirionedd o galendr cwn yr oeddwn. Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill gwobr mor fawreddog.”
Llwyddiant mawr i’r arddangosfa
Yn ogystal â Gwobr y Bobl, dyfarnwyd pedair gwobr arall gan banel o feirniaid wrth agor yr arddangosfa. Roedd yr enillwyr fel a ganlyn:
Gwobr y Beirniaid – Lesley James – Opposing Views (Tŷ Pawb)
Ymarfer Cymwys â Chymdeithasol – Louise Short – Sunset Over Stanlow (Tŷ Pawb)
Gwobr Cyfryngau Lens – Alan Whitfield – Marram Grass House (Undegun)
Gwobr Person Ifanc – Gideon Vass – (Undegun)
Meddai Curadur Tŷ Pawb, James Harper: “Mae Arddangosfa Agored Wrecsam wedi bod yn wych iawn eleni. Roedd ansawdd ac amrywiaeth y gwaith ar draws y ddau leoliad yn rhagorol ac adlewyrchwyd hyn yn y gefnogaeth a’r sylwadau positif a gawsom gan ymwelwyr.
“Mae’n addas iawn bod Wobr y Bobl, y wobr derfynol i gael ei chyhoeddi, wedi gael ei enill gan artist amatur lleol. Rydym yn gobeithio y bydd gwaith Austin a phawb arall a gymerodd ran yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i fod yn greadigol ac i barhau i gefnogi ein golygfa gelf lleol.”
Prif lun, i’r chwith: Jo Marsh (Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb), Austin Griffiths, James Harper (Curadur Tŷ Pawb), Anders Pleass (Cydlynydd Arddangosfa – Wrecsam Agored 2018).
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
YMGEISIWCH NAWR