Daeth cynghorau cymuned, grwpiau lleol a thrigolion o bob rhan o Wrecsam at ei gilydd yn ddiweddar i ddathlu’r cynnydd ysbrydoledig sy’n cael ei wneud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Dan arweiniad Cyngor Wrecsam, a chefnogaeth y grŵp Dinasyddion Ecolegol ym Mhrifysgol Wrecsam, nododd y Digwyddiad Cymunedau Carbon Isel (CCI) y cam nesaf yn nhwf Rhwydwaith CCI.
Wedi’i lansio’n wreiddiol fel cynllun peilot gyda sawl cyngor cymuned, mae’r rhwydwaith bellach wedi ehangu i groesawu aelodau newydd – gan greu mudiad cryfach, mwy cysylltiedig ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn lleol.
Clywodd mynychwyr gan ystod amrywiol o siaradwyr, gan ymdrin â phynciau fel:
- Cyngor cymuned Rhos-ddu (Y Cynghorydd Steve Gittens): Mentrau plannu coed a gosod blychau Gwenoliaid Du yn Rhos-ddu.
- Andrew Ruscoe: Mentrau casglu sbwriel, gorsafoedd bagiau baw cŵn a’r prosiect #StayOnside.
- Y Cynghorydd John C Phillips: Y gofod tyfu ym Mhen-y-cae a gosod pwll newydd.
- Tîm gwastraff ac ailgylchu Cyngor Wrecsam: Archwilio mentrau lleihau gwastraff a arweinir gan y gymuned.
- Gardd Gymunedol Rhos: Tyfu’r ardd a sut y gall grwpiau lleol ffurfio a ffynnu.
- Groundwork: Eu gwaith gyda CCIau hyd yma a’r gefnogaeth y gallant ei chynnig, gan gynnwys gweithdai, cyngor a chefnogaeth ar gyfer prosiectau presennol.
- Litegreen: Y cyfleoedd a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer bywyd carbon isel ac asesiadau adeiladau.
- Llwybr i Garbon Sero: Y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig ar eu taith i leihau carbon.
- Prosiect Banc Babanod: Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwastraff trwy hyrwyddo ailddefnyddio hanfodion babanod.
- Tŷ Pawb: Trawsnewid Tŷ Pawb yn ganolfan datgarboneiddio fywiog.
- Cyfnewid gwisg ysgol Cyngor Wrecsam: Prosiect dan arweiniad ‘Hyrwyddwr Gwyrdd’ i gefnogi rhieni a disgyblion.
- Incredible Edible: Gwaith wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a chynlluniau ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned yn y dyfodol.
- Tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: Llwyddiannau hyd yma a datblygiadau cyffrous sydd ar ddod – gan gynnwys y gystadleuaeth tŷ draenogod!

Ochr yn ochr â’r cyflwyniadau, rhoddodd dwy sesiwn drafod fywiog gyfle i gyfranogwyr edrych tua’r dyfodol.
Canolbwyntiodd y sesiwn gyntaf ar archwilio’r hyn y gallai pobl mewn cymunedau lleol ei nodi fel rhywbeth sy’n digwydd nawr, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Nododd yr ail sesiwn rwystrau ac atebion, gan helpu grwpiau i rannu ffyrdd ymarferol o oresgyn heriau fel cyllid, ymgysylltiad a chapasiti.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, aelod arweiniol Cyngor Wrecsam sy’n gyfrifol am leihau carbon: “Roedd adborth gan fynychwyr yn hynod gadarnhaol, ac roedd llawer yn canmol y digwyddiad fel cyfle gwerthfawr i ddod o hyd i ysbrydoliaeth, gwneud cysylltiadau newydd a dychwelyd adref gydag egni newydd ar gyfer eu prosiectau hinsawdd lleol.
“Gyda’r rhwydwaith yn parhau i ehangu, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd dan arweiniad y gymuned ledled Wrecsam.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn rhan o’r gymuned carbon isel, cysylltwch â ni decarbonisation@wrexham.gov.uk