Mae bariau ar draws Wrecsam yn cefnogi’r ymgyrch Gofynnwch am Angela, sy’n annog pobl i ofyn am gymorth os nad ydynt yn teimlo’n ddiogel pan fyddant yn mynd i gyfarfod rhywun.
Os ydych yn teimlo’n ddiamddiffyn, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mynd at y bar a gofyn am Angela, yna mae staff yn cael eu rhybuddio am y sefyllfa a gallant helpu.
Mae’r fenter yn anelu i leihau trais rhywiol a bregusrwydd drwy gynnig ffordd gall i gwsmeriaid gael cymorth gan staff er mwyn eu helpu os na fyddant yn teimlo’n ddiogel oherwydd camau, geiriau neu ymddygiad unigolyn.
Ar ôl cael rhybudd, yna gall staff gynnig galw am dacsi, cysylltu â ffrindiau neu deulu neu sicrhau bod yr unigolyn sy’n achosi’r gofid yn gadael yr adeilad.
‘Syml ond effeithiol’
Dywedodd yr arolygydd Paul Wycherley, “Mae hwn yn gynllun syml ond effeithiol sy’n rhoi grym i aelodau’r cyhoedd ofyn am gymorth os ydynt yn teimlo’n fregus, drwy ganiatáu iddynt godi eu pryderon gyda staff. Efallai eu bod yng nghwmni rhywun nad ydynt yr hyn yr oeddent yn ymddangos a’u bod eisiau gadael yn ddiogel a heb ffwdan. Bydd y fenter hon yn hwyluso hyn a gobeithio yn atal sefyllfaoedd rhag mynd yn fwy difrifol. Wrth gwrs, lle bydd sefyllfaoedd yn datblygu rydym yn gwybod y bydd staff y bar yn galw’r heddlu”.
Ar gael mewn lleoliadau ar draws Wrecsam, anogir pobl i edrych allan am y posteri ‘Gofynnwch am Angela’.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT