Bydd staff o Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cwblhau taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu yng Nghymru.
Dechreuodd y daith ym mis Medi 2022 a bydd y cyfranogwyr yn cwblhau’r daith ar 18 Hydref 2023 – yn ystod wythnos fabwysiadu (16 – 22 Hydref), ar ôl cwblhau mwy na 406 o filltiroedd, a bydd aelodau o staff sy’n gweithio i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cymryd rhan.
Gan fod tîm Mabwysiadu Gogledd Cymru yn seiliedig yn Wrecsam, bydd y grŵp yn cwblhau eu taith o flaen y Cae Ras eiconig.
Ar wahân i ambell swigen ar hyd y ffordd a gorfod cymryd gofal yn ystod stormydd diweddar mae’r grŵp yn dweud bod y daith fesul rhan wedi bod yn anodd, ond na fu unrhyw broblemau.
Nod y grŵp oedd bod y daith gerdded yn codi ymwybyddiaeth o fabwysiadu, trwy Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru sy’n cwmpasu pob un o 6 Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. A hefyd annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mabwysiadu i gysylltu â nhw am sgwrs anffurfiol er mwyn rhannu rhagor o wybodaeth.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16 – 22 Hydref), bydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnal nifer sesiynau Holi ac Ateb byw ar-lein dros TEAMS ar yr amseroedd canlynol:
Dydd Llun 16 Hydref | 7pm – 8pm | Saesneg |
Dydd Mawrth 17 Hydref | 12 hanner dydd – 1pm | Cymraeg |
Dydd Iau 19 Hydref | 12 hanner dydd – 1pm | Saesneg |
Anfonwch e-bost at adoption@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle am ddim.
Dywedodd Mihaela Bucutea, sy’n aelod o dîm Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru:
“Mae’n fraint bod yn rhan o wasanaeth mor wych sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant nad ydynt yn gallu cael eu meithrin a’u magu gan eu teulu eu hunain. Gobeithio trwy wynebu her cerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd, bod hyn wedi codi ymwybyddiaeth o wasanaethau maethu ar draws Gogledd Cymru, ac rwy’n annog unrhyw un a allai fod â chwestiynau, neu sydd â diddordeb mewn maethu, i gysylltu â’r tîm.”
Bydd y tîm o gerddwyr yn cyrraedd Cae Ras Wrecsam tua 11.30am ddydd Mercher 18 Hydref.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru am ddim ar 0800 0850774 neu anfon e-bost at adoption@wrexham.gov.uk
Isod- lluniau gwych a gasglwyd ar hyd y siwrne