Os ydych chi’n defnyddio unrhyw un o lyfrgelloedd Wrecsam, hoffem i chi gymryd rhan mewn arolwg am pa mor bwysig yw’r llyfrgell a’i wasanaethau i chi.
Hoffem hefyd glywed eich safbwyntiau ar yr hyn rydym ni’n ei wneud orau a’r hyn y gallem ei wneud yn well.
Bydd eich atebion yn ein helpu ni i ddeall anghenion a dymuniadau ein cwsmeriaid presennol a defnyddwyr posibl.
Does dim rhaid i chi ateb pob cwestiwn, na rhoi’ch enw.
I rannu eich barn, cymerwch ran yn yr ymgynghoriad yma.
Mae llyfrgelloedd a’r gwasanaethau yn bwysig iawn i bob un ohonom ni
Dywedodd y Cyng. Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol, “Mae ein llyfrgelloedd a’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu yn hynod o bwysig i ni i gyd. Mae amrywiaeth lawn o weithgareddau a gwasanaethau cynhwysol ar gael am ddim i bobl o bob oed, incwm, lleoliad, ethnigrwydd a gallu corfforol.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 10 Mehefin 2024.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Newyddion llyfrgell: Theory Test Pro (gan gynnwys HGVs)