Mae bron i 1 ymhob 5 aelwyd yn byw mewn cartref wedi’i rentu. Mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn ymgynghori gyda thenantiaid preifat i weld sut maen nhw’n delio â phandemig y coronafeirws.
Mae yna nifer o aelodau o staff yn byw mewn llety rhent preifat a hoffem eu gwahodd i ddweud eu dweud a rhannu eu profiadau o ran effaith Covid-19 ar eu tenantiaeth. Mae’r hyn y byddwch chi’n ei ddweud wrthym ni yn mynd i’n helpu ni siapio ein gwasanaethau rŵan ac yn 2021.
Hoffem hefyd ofyn i wasanaethau sy’n gweithio gyda thenantiaid preifat i ledaenu’r neges am yr holiadur hwn ac i annog pobl i gymryd rhan.
Mae’r holiadur yn cael ei gynnal gan TPAS Cymru (www.tpas.cymru) gwasanaeth cyfranogiad tenantiaid. Mae’ TPAS yn trefnu’r ‘Pwls Tenantiaid’ Mae Pwls Tenantiaid yn rhoi cyfle i denantiaid preifat roi adborth a rhannu profiadau. Mae Pwls Tenantiaid yn rhoi cyfle i aelodau ennill talebau ar gyfer y stryd fawr. Bydd eu lleisiau’n cael eu clywed gan Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Sefydliadau Landlordiaid.
Mae pawb sy’n ateb yr holiadur yn cael eu gwahodd i gofrestru efo Pwls Tenantiaid.
Mae gennych chi tan 30 Rhagfyr 2020 i ddweud eich dweud.
I gwblhau’r holiadur, cliciwch yma.