Rydym ni’n chwilio am bobl i ymuno â’n Tîm Therapi Galwedigaethol. Pobl sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau ar draws Wrecsam.
Efallai eich bod chi yn un o’r bobl hynny? Neu efallai eich bod chi’n adnabod rhywun fel hyn?
Os felly, mae gennym bedair swydd y dylech daro golwg arnynt.
Datblygu eich gyrfa
Mae’r tîm yn gweithio gydag ystod eang o achosion – o breswylwyr hŷn sydd angen eu hail-alluogi, i bobl ifanc sydd ag anableddau.
I gael tîm llawn, rydym angen tri therapydd llawn amser ac un rhan amser.
Dywedodd Joanna Fitton, Rheolwr Tîm: “Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i helpu oedolion, plant a theuluoedd diamddiffyn, ac sydd yn gallu darparu ystod lawn o wasanaethau.
“Gallai hyn gynnwys ail alluogi, symud a thrin, gweithio gydag oedolion sydd ag anableddau dysgu, cefnogaeth pediatreg, asesu offer a rhoi cyngor i ofalwyr.
“Yn gyfnewid, byddwn yn darparu cefnogaeth dda iawn, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a hyfforddiant.
“A byddwn yn darparu cefnogaeth ychwanegol i bobl sydd ar waelod yr ysgol yrfa, gan roi cymorth iddynt ddatblygu sgiliau a symud i raddfa uwch.
Gwnewch gais erbyn dydd Gwener, 3 Awst
Mae gradd neu ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol a chofrestriad HCPC cyfredol yn hanfodol ac mae’r swydd yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dysgwch fwy – gan gynnwys sut i wneud cais – ar wefan Cyngor Wrecsam.
GWNEWCH GAIS RŴAN