Bydd Wrecsam yn croesawu Taith Prydain Merched yn ôl ym mis Mehefin. Bydd Cam 2 yn cychwyn ac yn gorffen yng nghanol dinas Wrecsam ddydd Gwener, 7 Mehefin 2024.
- Bydd llinell gychwyn a diwedd y ras wedi’i lleoli ar Stryt Caer (y tu allan i Adeiladau’r Goron)
- Disgwylir i’r beicwyr adael am oddeutu 11:00am ar hyd cylchfan Ffordd Powell ac ymlaen i Stryt Caer
- Disgwylir i’r beicwyr ddychwelyd tua 3:15pm ar hyd Stryt y Twtil, Stryt Yorke ac ymlaen i Stryt Caer
- Bydd ardal y llwyfan ym maes parcio’r Llyfrgell
- Bydd Pentref y Daith a gweithgareddau/stondinau ychwanegol yn Llwyn Isaf
Bydd rhwystrau i’r dyrfa yn cael eu gosod naill ochr i’r ffordd o gylchfan Ffordd Powell i lawr at Stryt y Twtil.
Sylwer ar y manylion cau/cyfyngiadau isod gan y gall effeithio arnoch chi
Dydd Iau, 6 Mehefin
Ni chaniateir parcio ar y stryd ar Stryt Caer o 6pm ddydd Iau, 6 Mehefin. Bydd conau traffig yn cael eu gosod mewn mannau parcio. Bydd Stryt Caer yn ailagor ar ôl y ras ddydd Gwener 7 Mehefin. Bydd unrhyw gerbyd sy’n cael ei adael heb oruchwyliaeth yn cael ei symud o’r safle ac yn cael ei symud i gompownd a bydd angen talu ffi i gael y cerbyd yn ôl.
Dydd Gwener, 7 Mehefin, gosod ar gyfer y digwyddiad ar Stryt Caer
Bydd y ffordd gyfan ar gau o gylchfan Ffordd Powell at gyffordd Stryt Holt (Wingetts). Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu.
Bydd mynediad i gerbydau yn cael ei ganiatáu hyd at yr ardal i gerddwyr ar Stryt Caer (tan 1pm) – fodd bynnag, dim ond troi i’r dde i Stryt Holt y caniateir i gerbydau.
Meysydd parcio canol y ddinas
Ni fydd yna fynediad i’r meysydd parcio canlynol ar hyd Stryt Caer:
- Canolfan Byd Dŵr (Freedom Leisure)
- Llyfrgell
- Neuadd y Dref (Aelodau)
- Adeiladau’r Goron/Hwb Lles
- Y Neuadd Goffa
Gellir cael mynediad i’r meysydd parcio hyn ar hyd Stryt Holt (rheolir gan Rheoli Traffig):
- Staff Adeiladau’r Goron/Hwb Lles (bydd trefnwyr y digwyddiad yn defnyddio rhan o’r maes parcio hwn)
- Llysoedd Wrecsam
- Y Neuadd Goffa
Sylwer: ni chaniateir mynediad/gadael yr uchod rhwng 2pm a 4pm pan ddisgwylir i’r beicwyr ddychwelyd.
Bydd rhan o faes parcio arhosiad hir Canolfan Byd Dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddeiliaid bathodyn glas, a bydd modd cyrraedd ar hyd Stryt Holt (fydd yn cael ei reoli gan reolaeth draffig).
Bydd maes parcio San Silyn ar gau o 1pm a bydd yn ailagor pan fydd Stryt y Twtil yn ailagor (tua 4.30pm)
Anogir teithio llesol a chludiant cyhoeddus i ganol y ddinas.
1pm – tua 4:30pm
Bydd trefniadau cau Stryt Caer yn cael eu hymestyn i lawr Stryt y Twtil. Bydd y Stryd Fawr hefyd ynghau gan na fydd yna fynediad drwy Stryt Yorke.
2pm – tua 4pm
Bydd trefniadau cau ffordd ar Stryt Holt yn ymestyn o Wingetts i lawr i fynedfa maes parcio Home Bargains. Bydd Stryt y Farchnad hefyd ynghau o gyffordd Stryt Holt i fynedfa Tŷ Pawb.
Mae disgwyl i’r beicwyr ddychwelyd tua 3:15pm. Pan fydd y ras wedi gorffen, bydd y gwaith o dynnu popeth i lawr yn cychwyn. Bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
Rydym ni’n cydnabod y bydd y digwyddiad hwn yn achosi peth anhwylustod i drigolion a busnesau o fewn canol y ddinas. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau na fydd yna ormod o darfu arnoch chi.
Y Cymal Wrecsam:
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen DATGELU LLWYBRAU AR GYFER CYMALAU AGORIADOL TAITH PRYDAIN I FERCHED 2024