Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024
Y cyngorBusnes ac addysg

Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024

Diweddarwyd diwethaf: Mai 16, 2024 2:21 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Tour of Britain
RHANNU

Bydd Wrecsam yn croesawu Taith Prydain Merched yn ôl ym mis Mehefin. Bydd Cam 2 yn cychwyn ac yn gorffen yng nghanol dinas Wrecsam ddydd Gwener, 7 Mehefin 2024.  

Cynnwys
  • Sylwer ar y manylion cau/cyfyngiadau isod gan y gall effeithio arnoch chi
  • Y Cymal Wrecsam:
  • Bydd llinell gychwyn a diwedd y ras wedi’i lleoli ar Stryt Caer (y tu allan i Adeiladau’r Goron)
  • Disgwylir i’r beicwyr adael am oddeutu 11:00am ar hyd cylchfan Ffordd Powell ac ymlaen i Stryt Caer
  • Disgwylir i’r beicwyr ddychwelyd tua 3:15pm ar hyd Stryt y Twtil, Stryt Yorke ac ymlaen i Stryt Caer
  • Bydd ardal y llwyfan ym maes parcio’r Llyfrgell
  • Bydd Pentref y Daith a gweithgareddau/stondinau ychwanegol yn Llwyn Isaf

Bydd rhwystrau i’r dyrfa yn cael eu gosod naill ochr i’r ffordd o gylchfan Ffordd Powell i lawr at Stryt y Twtil.

Sylwer ar y manylion cau/cyfyngiadau isod gan y gall effeithio arnoch chi

Dydd Iau, 6 Mehefin

Ni chaniateir parcio ar y stryd ar Stryt Caer o 6pm ddydd Iau, 6 Mehefin.  Bydd conau traffig yn cael eu gosod mewn mannau parcio. Bydd Stryt Caer yn ailagor ar ôl y ras ddydd Gwener 7 Mehefin. Bydd unrhyw gerbyd sy’n cael ei adael heb oruchwyliaeth yn cael ei symud o’r safle ac yn cael ei symud i gompownd a bydd angen talu ffi i gael y cerbyd yn ôl.

Dydd Gwener, 7 Mehefin, gosod ar gyfer y digwyddiad ar Stryt Caer

Bydd y ffordd gyfan ar gau o gylchfan Ffordd Powell at gyffordd Stryt Holt (Wingetts).  Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei ganiatáu.

Bydd mynediad i gerbydau yn cael ei ganiatáu hyd at yr ardal i gerddwyr ar Stryt Caer (tan 1pm) – fodd bynnag, dim ond troi i’r dde i Stryt Holt y caniateir i gerbydau.

Meysydd parcio canol y ddinas

Ni fydd yna fynediad i’r meysydd parcio canlynol ar hyd Stryt Caer:

  • Canolfan Byd Dŵr (Freedom Leisure)
  • Llyfrgell
  • Neuadd y Dref (Aelodau)
  • Adeiladau’r Goron/Hwb Lles
  • Y Neuadd Goffa

Gellir cael mynediad i’r meysydd parcio hyn ar hyd Stryt Holt (rheolir gan Rheoli Traffig):

  • Staff Adeiladau’r Goron/Hwb Lles (bydd trefnwyr y digwyddiad yn defnyddio rhan o’r maes parcio hwn)
  • Llysoedd Wrecsam
  • Y Neuadd Goffa

Sylwer: ni chaniateir mynediad/gadael yr uchod rhwng 2pm a 4pm pan ddisgwylir i’r beicwyr ddychwelyd. 

Bydd rhan o faes parcio arhosiad hir Canolfan Byd Dŵr yn cael ei ddefnyddio i ddeiliaid bathodyn glas, a bydd modd cyrraedd ar hyd Stryt Holt (fydd yn cael ei reoli gan reolaeth draffig).

Bydd maes parcio San Silyn ar gau o 1pm a bydd yn ailagor pan fydd Stryt y Twtil yn ailagor (tua 4.30pm)

Anogir teithio llesol a chludiant cyhoeddus i ganol y ddinas.

1pm – tua 4:30pm

Bydd trefniadau cau Stryt Caer yn cael eu hymestyn i lawr Stryt y Twtil. Bydd y Stryd Fawr hefyd ynghau gan na fydd yna fynediad drwy Stryt Yorke.

2pm – tua 4pm

Bydd trefniadau cau ffordd ar Stryt Holt yn ymestyn o Wingetts i lawr i fynedfa maes parcio Home Bargains.  Bydd Stryt y Farchnad hefyd ynghau o gyffordd Stryt Holt i fynedfa Tŷ Pawb. 

Mae disgwyl i’r beicwyr ddychwelyd tua 3:15pm.  Pan fydd y ras wedi gorffen, bydd y gwaith o dynnu popeth i lawr yn cychwyn. Bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.

Rydym ni’n cydnabod y bydd y digwyddiad hwn yn achosi peth anhwylustod i drigolion a busnesau o fewn canol y ddinas.  Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau na fydd yna ormod o darfu arnoch chi.

Y Cymal Wrecsam:

Taith Prydain Merched - gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen DATGELU LLWYBRAU AR GYFER CYMALAU AGORIADOL TAITH PRYDAIN I FERCHED 2024

Rhannu
Erthygl flaenorol Recall A fyddech chi’n gwybod pe bai cynnyrch bwyd a brynwyd gennych yn cael ei alw’n ôl?
Erthygl nesaf Record Fair Fair Recordiau Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English