Erthygl gwadd Tourettes Action
Mae Tourettes Action, elusen arweiniol sy’n ymroi i gefnogi pobl â Syndrom Tourette, yn ceisio cefnogaeth genedlaethol i gael gwared ar gamsyniadau a lleihau’r stigma o amgylch y cyflwr. Yn rhedeg o 15 Mai i 15 Mehefin, gyda Diwrnod Ymwybyddiaeth o Tourette ar 7 Mehefin, mae’r elusen yn annog pawb i gymryd rhan.
Mae Syndrom Tourette yn parhau i gael ei gamddeall, gyda llawer yn ei weld mewn camgymeriad fel problem ymddygiad doniol, prin sy’n deillio o rianta gwael. Yn groes i’r credoau hyn, mae Syndrom Tourette yn gyflwr niwrolegol cyffredin sydd wedi’i bennu’n enetig sy’n effeithio ar 1 o bob 100 o blant oed ysgol, sy’n debyg i nifer yr achosion o Awtistiaeth ac epilepsi mewn plentyndod.
Mae byw gyda Syndrom Tourette ymhell o fod yn ddoniol. Mae camsyniadau yn aml yn arwain at y syniad anghywir bod pawb sydd â Syndrom Tourette yn dweud geiriau anweddus yn anfwriadol, gan stigmateiddio‘r rhai sy’n cael eu heffeithio hyd yn oed yn fwy ac yn meithrin teimladau o unigedd. Bwriad Tourettes Action yw herio’r camsyniadau hyn a meithrin gwell dealltwriaeth yn ystod y mis ymwybyddiaeth.
Eleni, mae Tourettes Action yn lansio ymgyrch #MaeTourettesYnBrifo #TourettesHurts , sy’n taflu goleuni ar y boen anweledig sy’n gysylltiedig â Syndrom Tourette: yr anghysur di-baid a achosir gan y ticiau, yr eithrio cymdeithasol, y gofid a achosir gan ataliad, y blinder a’r diffyg cymorth a darpariaethau meddygol digonol. Bu iddynt gydweithio â’r asiantaeth AML i ddatblygu pum poster, gyda phob un yn cynnwys aelod o’r gymuned Tourette, i ddangos realiti eu bywydau’n fyw.
Meddai Emma McNally, Prif Swyddog Gweithredol Tourettes Action: “Trwy ein hymgyrch, Mae Tourette’s yn Brifo, ein nod yw taflu goleuni ar brofiadau go iawn unigolion sy’n byw gyda Syndrom Tourette. Gyda dros 300,000 o bobl wedi’u heffeithio gan Tourettes yn y DU yn unig, ein hamcan yw meithrin awyrgylch cynhwysol lle mae unigolion â’r cyflwr yn derbyn cymorth meddygol, addysgol a chyflogaeth priodol heb wynebu diarddeliad neu ddieithriad. Gadewch i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i hyrwyddo dealltwriaeth yn hytrach na beirniadu — ni ddylai unrhyw un deimlo eu bod wedi’u heithrio oherwydd ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth. Ymunwch â ni, rhannwch ein neges, a chyfrannwch at liniaru’r heriau y mae’r rheiny sy’n byw â Syndrom Tourette yn eu hwynebu.”
Gallwch ganfod mwy am sut i gymryd rhan drwy fynd i wefan Tourettes Action Tourettes Action (tourettes-action.org.uk)