Arweiniodd achos llys ynadon diweddar at ddyfarnu töwr lleol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau Diogelu’r Defnyddiwr rhag Masnachu Annheg. Gorchmynnwyd i All Seasons Roofing Contractors Limited o Sandycroft, a’i Gyfarwyddwr Patrick McDonagh, dalu dirwyon a chostau gwerth cyfanswm o £4,800.
Lansiodd Safonau Masnach yn Wrecsam ymchwiliad i weithgareddau’r töwr yn dilyn digwyddiad lle nododd cymydog pryderus fod trigolyn oedrannus yn cael gwaith ar ei do, er mai dim ond gwaith ar un o’i simneiau oedd wedi gofyn amdano i ddechrau. Canfuwyd bod y gwaith a wnaed yn is na’r safonau a ddisgwylir gan gontractwr cymwys, ac yn torri deddfau diogelu’r defnyddiwr.
Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Rydym yn delio’n rheolaidd â chwynion ynghylch gwaith a wneir ar gartrefi o ganlyniad i alwad digroeso lle nad oedd y gwaith a wnaed yn angenrheidiol, yn aneffeithiol ac yn rhy ddrud. Byddwn wir yn annog defnyddwyr i fod yn ofalus iawn wrth ddewis contractwyr i wneud gwaith yn eu cartref eu hunain. Peidiwch â delio â galwyr digroeso, dywedwch ‘Na’.
“Cyngor siopa da gan Safonau Masnach – os ydych chi’n ystyried gwneud gwaith ar eich cartref, dewiswch eich adeiladwr neu gontractwr yn ofalus. Os ydyn nhw’n honni eu bod yn aelodau o gymdeithasau masnach, gwiriwch a ydyn nhw, ac a yw hyn o unrhyw fudd i’r cwsmer mewn gwirionedd. Os gallwch chi, gwnewch ychydig o ymchwil ar-lein i chwilio am adolygiadau neu brofiadau gwael cwsmeriaid eraill. Gorau oll, ceisiwch argymhellion gan ffrindiau a theulu.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF