Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl – rhagor o fanylion yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl – rhagor o fanylion yma
Pobl a lleY cyngor

Trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl – rhagor o fanylion yma

Diweddarwyd diwethaf: 2017/07/24 at 3:57 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl – rhagor o fanylion yma
RHANNU

Mae cryn dipyn o newidiadau ar y gweill i drefniadau parcio ceir ym Marchnad y Bobl.

Cynnwys
A fydd parcio am ddim ar ôl 3pm ar gael o hyd?A allaf adael fy nhocyn yn y car?A allaf ddod i mewn ac allan o’r maes parcio gyda’r un tocyn? A oes hawl gan ddeiliaid Bathodyn Glas i gael parcio am ddim o hyd? A oes angen i mi arddangos fy Mathodyn Glas? Mae gen i docyn tymor ar gyfer y maes parcio – sut bydd modd i mi fynd i mewn ac allan?

Mae rhai o’r newidiadau eisoes wedi’u cwmpasu ar y blog hwn ond mae rhagor o fanylion ar gael bellach.

Bydd “system talu ar droed” newydd yn cael ei chyflwyno yn y maes parcio ddechrau’r wythnos nesaf, sy’n golygu y bydd defnyddwyr yn talu wrth ddychwelyd i’r maes parcio, yn hytrach na chyn gadael.

Yn ogystal â’r system newydd, bydd y newidiadau yn golygu cyflwyno system darllen tocynnau ar ddrysau’r grisiau sy’n darparu mynediad i’r meysydd parcio, a fydd yn gwella diogelwch yn yr adeilad.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Bydd defnyddwyr yn dal i allu parcio yn y maes parcio am ddim ar ôl 3pm, ond bydd rhaid iddynt roi eu tocyn yn un o’r peiriannau talu i ddilysu parcio cyn iddynt adael.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Bydd y newidiadau hyn o fudd mawr i ddefnyddwyr maes parcio Marchnad y Bobol, a bydd y system newydd yn helpu i wella diogelwch drwy sicrhau mai dim ond y rhai sy’n defnyddio’r maes parcio sy’n cael defnyddio’r grisiau.

“Dylai unrhyw un sydd â thocyn tymor ac sydd am ei newid am un newydd gysylltu cyn gynted ag sy’n bosibl.”

I gael rhagor o fanylion gweler y Cwestiynau Cyffredin isod:

A fydd parcio am ddim ar ôl 3pm ar gael o hyd?

Bydd, byddwch chi’n dal i allu parcio yn y maes parcio am ddim ar ôl 3pm. Bydd rhaid i chi roi eich tocyn yn un o’r peiriannau talu i ddilysu’r parcio am ddim cyn i chi adael.

A allaf adael fy nhocyn yn y car?

Na, rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich tocyn gennych bob amser. Rydym wedi cyflwyno systemau darllen tocynnau ar ddrysau, felly bydd angen eich tocyn arnoch i wneud yn siŵr bod gennych fynediad i’r grisiau.

A allaf ddod i mewn ac allan o’r maes parcio gyda’r un tocyn?

Na – bydd angen i chi wneud yn siŵr cyn i chi yrru o’r maes parcio eich bod yn rhoi eich tocyn yn y peiriant talu a thalu amdano, neu byddwch chi’n methu mynd allan!  Os oes gennych docyn dyddiol, yn anffodus ni fyddwch chi’n gallu dod i mewn ac allan o’r maes parcio drwy gydol y dydd.

Os oes angen i chi ddod i mewn ac allan o’r maes parcio, mae’n bosibl y bydd hi’n haws gwneud cais am docyn tymor. Mae tocynnau tymor yn caniatáu i ddefnyddwyr ddod i mewn ac allan o’r maes parcio yn ystod yr un diwrnod.

A oes hawl gan ddeiliaid Bathodyn Glas i gael parcio am ddim o hyd?

Oes, bydd hawl gan ddeiliaid Bathodyn Glas i barcio am ddim. Os bydd deiliad Bathodyn Glas am adael y maes parcio, bydd angen iddynt fynd i Oriel Wrecsam ar Ffordd Caer (mynedfa i Arcêd y De, Marchnad y Bobl) i ddilysu eu tocyn er mwyn cael parcio am ddim.

Os bydd Oriel Wrecsam ar gau, mae system intercom ar y rhwystr ar yr allanfa. Bydd angen i chi bwyso hwn cyn gadael a bydd aelod o staff yn eich helpu.

A oes angen i mi arddangos fy Mathodyn Glas?

Oes, bydd angen i chi arddangos eich Bathodyn Glas wrth barcio mewn bae parcio i bobl anabl.

Mae gen i docyn tymor ar gyfer y maes parcio – sut bydd modd i mi fynd i mewn ac allan?

Os oes gennych docyn tymor ar gyfer y maes parcio, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â peoplesmarketdevelopment@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 315404 cyn dydd Llun 24 Gorffennaf i wneud yn siŵr bod modd cael tocyn newydd i chi yn barod ar gyfer pan fydd y system yn mynd yn fyw.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Ailgylchu rhyfedd: choeliech chi ddim beth mae rhai pobl yn ei roi yn eu biniau gwyrdd Ailgylchu rhyfedd: choeliech chi ddim beth mae rhai pobl yn ei roi yn eu biniau gwyrdd
Erthygl nesaf Y Gwaith Hanfodol o Ofalu am Bobl yn ystod eu Dyddiau Olaf Y Gwaith Hanfodol o Ofalu am Bobl yn ystod eu Dyddiau Olaf

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
DigwyddiadauPobl a lle

Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English