Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchu rhyfedd: choeliech chi ddim beth mae rhai pobl yn ei roi yn eu biniau gwyrdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ailgylchu rhyfedd: choeliech chi ddim beth mae rhai pobl yn ei roi yn eu biniau gwyrdd
Y cyngor

Ailgylchu rhyfedd: choeliech chi ddim beth mae rhai pobl yn ei roi yn eu biniau gwyrdd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 19, 2017 12:28 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ailgylchu rhyfedd: choeliech chi ddim beth mae rhai pobl yn ei roi yn eu biniau gwyrdd
RHANNU

Mae biniau gwyrdd yn dal gwastraff gardd. Rydych chi’n eu llenwi â gwair wedi torri ac ati…ac yna rydyn ni’n ei droi’n gompost hyfryd.

Cynnwys
  • Ond y newyddion da yw…
  • Os gwelwch chi’n dda…
  • Dim diolch…

Swnio’n ddigon syml, dydi? Ond fe fyddech chi’n synnu at rai o’r eitemau od a rhyfedd mae ein tîm ailgylchu’n eu ffeindio ar ddiwrnodau casglu biniau gwyrdd.

Beth am boteli nwy barbeciw, i gychwyn. Fe fyddech chi’n cymryd yn ganiataol nad ydi cynwysyddion metel yn gwneud compost da iawn, ond rydyn ni wedi dod ar eu traws nhw.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i gadeiriau gardd plastig. Unwaith eto, dim y deunydd compostio gorau erioed (fyddech chi ddim yn gweld Monty Don yn bwydo PVuC wedi’i rwygo’n ddarnau i’w domatos).

Mae’r pethau rhyfedd eraill rydyn ni wedi dod ar eu traws yn cynnwys ffensys, brics a choncrid. Dydyn ni ddim yn caniatáu’r un o’r pethau hyn ac os byddwn ni’n dod o hyd iddyn nhw, fyddwn ni ddim yn gwagio’r bin hwnnw – allwn ni mo’u compostio nhw.

Ond y newyddion da yw…

Mae’r rhan fwyaf o drigolion Wrecsam yn gwneud joban dda iawn o lenwi eu biniau gwyrdd, a’r llynedd, fe wnaethoch chi ein helpu i gynhyrchu dros 6,800 tonnes o dunelli o gompost (ac rydyn ni’n ailgylchu cyfanswm o 68% o wastraff y cartref, sy’n arbennig).

Ond mae’n rhaid i ni gyfaddef ei bod yn hawdd i rywun wneud camgymeriad go iawn weithiau, felly dyma’ch atgoffa chi o’r pethau y dylech chi ei roi yn eich bin gwyrdd, a’r pethau i beidio.

Os gwelwch chi’n dda…

  • Toriadau gwair
  • Toriadau perthi a llwyni
  • Blodau marw
  • Chwyn

Dim diolch…

  • Pridd
  • Pren
  • Brics
  • Canclwm Japan
  • Baw anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
  • Unrhyw fath o gardbord

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Pan mae’n dod at ailgylchu a chompostio, mae pobl Wrecsam yn gwneud gwaith anhygoel.

“Mae’n wir ein bod ni’n dod ar draws ambell i eitem anarferol! Ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud yn wych, ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sy’n rhoi eu gwastraff gardd yn eu bin gwyrdd.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/english/user_register/register.cfm”]SIGN ME UP[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ap dysgu Cymraeg wedi’i enwebu am wobr genedlaethol Ap dysgu Cymraeg wedi’i enwebu am wobr genedlaethol
Erthygl nesaf Trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl – rhagor o fanylion yma Trefniadau parcio newydd ym Marchnad y Bobl – rhagor o fanylion yma

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English