Trodd llawer o ysgolion yn y fwrdeistref sirol, ynghyd â Neuadd y Dref, yn las ar 20 Tachwedd i ddathlu Diwrnod Plant y Byd 2021.
Nod y digwyddiad, a gynhelir bob blwyddyn, yw hyrwyddo cyd-dynnu, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o les plant, a’i wella.
Trodd disgyblion ym Mhengelli eu hysgol yn las i ddathlu Diwrnod Plant y Byd.
Yn ogystal â throi’n las ar yr 20fed, cynhaliwyd diwrnod o ddathlu am ddim yn Nhŷ Pawb ar 18 Tachwedd. Roedd ‘Eich Llais yn Wrecsam’ yn ddigwyddiad hwyliog a rhyngweithiol i ddathlu lle plant a phobl ifanc yn ein cymdeithas.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Fe’i hagorwyd yn swyddogol gan gadeirydd Senedd yr Ifanc, ac roedd awyrgylch gwirioneddol o ddathlu, gyda bwyd am ddim, gemau, gweithgareddau chwarae a cherddoriaeth. Roedd perfformiadau’n cynnwys cerddoriaeth fyw gan y band lleol Abstract, y canwr a’r cyfansoddwr Steve Jones, triciau hud gan Ian’s Close Up Magic a pherfformiad syrcas gan James Blazley. Cafodd y cyfan ei gofnodi gan Lisa o 1000 Words gyda lluniadau ffeithlun.
Dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth y Gwasanaethau Atal a Chefnogaeth, Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Roeddwn i’n hapus iawn i fod yn rhan o’r dathliadau ar gyfer Diwrnod Plant y Byd ac yn ddiolchgar o fod yn rhan o droi’r byd yn las i gefnogi hawliau plant. Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn gryf iawn oherwydd maen nhw’n wybodus am y materion sy’n bwysig iddynt, ac o’m profiad i o weithio ochr yn ochr â nhw, maen nhw hefyd yn greadigol iawn wrth feddwl am sut i’w datrys.
“Pan wnaethom oleuo Neuadd y Dref yn las, roedd yn edrych yn hyfryd, ond yn bwysicaf oll, roedd yn uno pawb o amgylch neges o hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, nid dim ond ar y diwrnod hwnnw, ond ar bob cyfle.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL