Mae’n bosib y byddwch am gadw golwg am ddwy awyren arbennig iawn a fydd yn hedfan dros Wrecsam yr wythnos hon.
Hercules yr Awyrlu Brenhinol yw’r gyntaf, ac fe fydd yn hedfan dros Wrecsam ar Awst 23 i nodi dadorchuddiad plac i nodi canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol yng ngardd goffa’r Awyrlu Brenhinol ar Sgwâr y Frenhines. Mynychir y digwyddiad gan y Maer, personél o’r Awyrlu Brenhinol a Chadetiaid Awyr.
Fe’ch gwahoddir oll i’r digwyddiad coffaol hwn sy’n cychwyn am 11:30yb yng Ngardd Goffa’r Awyrlu Brenhinol ar Sgwâr y Frenhines ac yn gorffen am 12:15yp.
Yr awyren gludiant Hercules yw asgwrn cefn gweithredoedd tactegol ers ei gyflwyno i wasanaethu ym 1999. Bydd yr Hercules, â’i injan pedwar llafn nodedig, yn llenwi’r awyr uwch canol y dref am hanner dydd. Mawr obeithiwn y gallwch ymuno â ni ar yr achlysur arbennig hwn.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Ar ddydd Sadwrn, Awst 25, cawn wledd arall i’r llygaid pan fydd Dakota – rhan o Ehediad Coffa Brwydr Prydain – yn cymryd canol y llwyfan ac yn hedfan dros ganol y dref am 2.17yp fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol a rhoi Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru.
I ni yn Wrecsam, mae’r Dakota yn arbennig o briodol am mai dyma’r math o awyren a lywiwyd gan David Lord, VC, DFC. Dewrder David Lord a sicrhaodd ollwng cyflenwadau hanfodol dros Arnhem yn ystod yr Ail Ryfel Byd er gwaethaf y ffaith fod ei awyren wedi ei difrodi ac ar dân, gan achosi iddo golli ei fywyd yn y pendraw. Ceir cydnabyddiaeth i’w ddewrder ar blac coffa yn y Neuadd Goffa ym Modhyfryd.
Gallwch ddarllen rhagor am ddigwyddiadau dathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol a Rhyddid y Fwrdeistref Sirol yma:
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION