Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Yn Barod i Fyw – sut mae cyn-filwyr yn ymdopi pan fyddant yn gadael y bywyd milwrol?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Yn Barod i Fyw – sut mae cyn-filwyr yn ymdopi pan fyddant yn gadael y bywyd milwrol?
ArallPobl a lleY cyngor

Yn Barod i Fyw – sut mae cyn-filwyr yn ymdopi pan fyddant yn gadael y bywyd milwrol?

Diweddarwyd diwethaf: Awst 20, 2018 10:55 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Yn Barod i Fyw – sut mae cyn-filwyr yn ymdopi pan fyddant yn gadael y bywyd milwrol?
RHANNU

Ydych chi wedi meddwl erioed am sut fydd personél yn teimlo wrth geisio addasu i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog?

Cynnwys
  • “Profiad unigryw”
  • “Cyffwrdd ac addysgu”

Wel, mae arddangosfa ffotograffiaeth rymus yn agor yn Nhŷ Pawb ddydd Sadwrn sydd yn rhoi golwg i ni ar sut fydd cyn-filwyr yn teimlo pan fyddant yn profi’r newid hwnnw, a pha newidiadau y mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud er mwyn addasu i’w cymuned newydd. Mae’r arddangosfa yn rhan o ddigwyddiadau coffau Wrecsam i nodi canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol.

Mae’r arddangosfa yn rhoi blas da o’r hyn y mae sawl un wedi gorfod mynd drwyddo i sicrhau “trawsnewidiad” llwyddiannus i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog wedi i’w gwasanaeth ddod i ben – naill ai oherwydd anafiad neu am fod eu cyfnod yn y fyddin wedi darfod.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Mae’r arddangosfa gan y ffotograffydd Ceridwen Hughes wedi ei seilio ar ddwy flynedd o ymchwil academaidd gan y Dr. Nikki Lloyd-Jones o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Mae’r cywaith – a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Forces in Mind – yn amlygu canfyddiadau’r adroddiad ‘Leaving the Armed Forces and living as a civilian’, ac yn datgelu pwysigrwydd hunaniaeth i’r rheiny sy’n trawsnewid o fywyd yn y Lluoedd Arfog i fywyd sifil.

Cafodd y delweddau eu dylunio a’u creu yn dilyn sgyrsiau â chyn-filwyr, ac maent yn cyfeirio at eu gorffennol a’u presennol. Nod yr arddangosfa yw i ennyn diddordeb pobl ym mhrofiadau’r sawl a bortreadir. I gyd-fynd â phob delwedd ceir naratif ysgrifenedig a chyfweliadau fideo.

“Profiad unigryw”

Mae gan bob unigolyn a fu’n rhan o’r prosiect ffotograffig eu profiad unigryw o drawsnewid, ond un thema gyffredin sy’n dolennu trwy’r holl fyfyrdodau yw’r angen i ddatblygu deialog ar y cyd â’u cymuned sifilaidd.

Esboniodd Ceridwen: “Daeth yn amlwg yn ystod ein sgyrsiau â chyn-filwyr fod pobl wedi cymryd yn ganiataol mai cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn oedd trawsnewid. Mae’r adroddiad yma a’r arddangosfa, ar y llaw arall, yn awgrymu y dylid rhannu’r cyfrifoldeb hwnnw â’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

“Mae deialog yn aml yn canolbwyntio ar filwyr sydd wedi eu hanafu neu eu niweidio, ond gall diffyg dealltwriaeth o’u hanghenion gan yr union gymunedau y maent yn symud iddynt yn aml waethygu’r anawsterau a brofir wrth drawsnewid. Ein nod trwy’r prosiect hwn yw amlygu canfyddiadau’r ymchwil ac agor deialog ynghylch yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn haws i’r sawl sydd mewn cyfnod o drawsnewid,” esboniodd Ceridwen Hughes.

“Cyffwrdd ac addysgu”

Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, sydd yn Gefnogwr y Lluoedd Arfog: “Dyma arddangosfa sydd yn cyffwrdd ac yn addysgu, ac fe hoffwn ddiolch i bawb fu’n rhan o sicrhau ei bod yn cael ei dangos yn Wrecsam yn ystod dathliadau canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol. Rwyf yn annog cymaint o bobl â phosib i fynd draw i weld yr hyn y mae llawer wedi bod drwyddo er mwyn dychwelyd i fywyd sifilaidd yn dilyn blynyddoedd o wasanaeth i’w gwlad.”

Mae dydd Sadwrn y 25 o Awst yn ddiwrnod prysur yn y dref, felly beth am gymryd y cyfle am ddiwrnod allan i’r teulu cyfan wrth i ni ddathlu rhoi Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru a chanmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol.

Gallwch ddarllen mwy yma:

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dathliadau Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Cyhoeddi’r Manylion Dathliadau Rhyddid yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru – Cyhoeddi’r Manylion
Erthygl nesaf Trowch eich golygon tua’r awyr! Trowch eich golygon tua’r awyr!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English