Rydym wedi plannu dwy goeden arbennig ar Lawnt Llwyn Isaf yn ddiweddar.
Plannwyd Cochwydden Sierra ‘Glauca’ (Cochwydden Las Enfawr) er cof am y Frenhines fu’n teyrnasu hiraf yn y wlad, y ddiweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, a Quercus robur ‘Fastigiata Koster’ (Derwen Bigfain) i ddathlu Coroni’r Brenin Charles III.
Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron yn bresennol yn y seremoni blannu yn ogystal ag uwch swyddogion o Gyngor Wrecsam.
Fel rhan o’r Cynllun Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy’n anelu i ddod ag isadeiledd gwyrdd i leoedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, bydd y coed a blannwyd yn darparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt a byddant yn cyfoethogi Canol y Ddinas.
Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i blannu coed. Gwyddwn pa mor bwysig yw coed, gwella bioamrywiaeth, creu cysgod a chasglu a storio carbon deuocsid, o ystyried yr argyfwng hinsawdd yr ydym ynddo.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Gyda chyfle i blannu mwy o goed, roedd yn deyrnged addas a phriodol i blannu’r coed coffa hyn”.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD