Mae lleoliad marchnadoedd, celfyddydau a chymunedol Wrecsam, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi’i enwi fel un o 40 o sefydliadau celfyddydau Cymru a fydd yn derbyn cyfran o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf £8m Llywodraeth Cymru, a ddarperir drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu i sefydliadau fuddsoddi ar unwaith i gyflawni’r holl fuddion economaidd a chymdeithasol y mae celfyddydau a diwylliant yn eu darparu ledled Cymru.
Bydd Tŷ Pawb yn derbyn £67,500, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar ddatblygiad cyfalaf i wella ardal fynedfa Arcêd y Gogledd yr adeilad a’r Gofod Hyblyg cyfagos.
Mae Tŷ Pawb yn un o dri sefydliad celfyddydau yn ardal Wrecsam i gael cyllid fel rhan o’r rhaglen, y ddau arall yw The Stiwt yn Rhos ac Avant Cymru, y cwmni theatr sy’n gyfrifol am The Lab ar Ddôl yr Eryrod.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb am Tŷ Pawb: “Rydym wrth ein bodd yn un o 40 sefydliad celfyddydol yng Nghymru i gael eu dyfarnu i gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru, a weinyddir drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y £67,500 a ddyfarnwyd i Tŷ Pawb yn caniatáu inni gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar ddatblygiad cyfalaf cam 2 i wella mynedfa Arcêd y Gogledd a’r Gofod Hyblyg yn neuadd y farchnad.
“Daw’r wobr ar adeg gadarnhaol iawn ar gyfer datblygiadau yn neuadd y farchnad a’r ardal fwyd. Rydym newydd gyhoeddi rhaglen a gefnogir gan Gronfa Ffyniant a Rennir (SPF) Llywodraeth y DU i greu gofod agored, hyblyg newydd wrth yr ardal fwyd i ddiwallu’r galw cynyddol am ofod gweithgareddau ychwanegol i blant a theuluoedd, marchnadoedd dros dro, a gofod cyfarfod grwpiau cymunedol. Mae’r gwaith yn cynnwys dau alwad comisiwn dylunio i ddylunio byrddau a seddi newydd a ‘phecyn chwarae’ i blant a theuluoedd.
“Y mis hwn rydym wedi lansio rhaglen newydd o weithgareddau dyddiol wythnosol am ddim, a fydd i gyd yn digwydd yn neuadd y farchnad, hefyd wedi’u hariannu gan SPF, ac rydym yn gyffrous iawn i groesawu nifer o fusnesau lleol newydd a fydd yn agor yn ein marchnad yn yr wythnosau nesaf, ynghyd â masnachwr poblogaidd arall, Stashbusters, sydd newydd ehangu i siop fwy yr wythnos hon.”
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Dangosodd ymateb y sector yr angen mawr am yr arian yma i gynnal a datblygu ein lleoliadau i greadigrwydd a chymunedau ffynnu ar hyd a lled Cymru. Mae’n amlwg bod angen cynnal a gwella’r adeiladau pwysig hyn a gwella eu cynaliadwyedd amgylcheddol. Mewn rownd gystadleuol, roeddem yn falch o weld cynifer o gynlluniau cyffrous gan gynnwys rhai nad oedd modd eu hariannu y tro yma, yn anffodus. Diolch i Lywodraeth Cymru am wneud hi’n bosib i ni gynnig y gronfa yma. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd y prosiectau’n ei chael.”
Meddai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant: “Mae’r buddsoddiad o £8 miliwn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i gefnogi sector y celfyddydau a diwylliant bywiog Cymru. O leoliadau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Gelfyddydol Pontio, drwy sefydliadau rhanbarthol pwysig fel Venue Cymru, Canolfan Ucheldre yng Nghaergybi ac Oriel Elysiwm yn Abertawe, i drysorau cymunedol fel Pafiliwn y Grand Porthcawl, Sefydliad Glowyr Coed Duon a Theatr Mwldan, mae’r 40 sefydliad sydd wedi cael arian yn cynrychioli calon ddiwylliannol Cymru ledled y wlad.
“Mae ehangder y prosiectau sy’n cael eu cefnogi’n ariannol – o ailddatblygu lleoliadau mawr i fentrau trawsnewid digidol – yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth bod angen cefnogaeth hyblyg ar sector y celfyddydau i gwrdd â heriau’r 21ain ganrif. P’un a yw’n gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd amgylcheddol neu ymgymryd â thechnolegau newydd, bydd y buddsoddiad yn helpu ein sefydliadau diwylliannol i ymaddasu a ffynnu wrth gynnal eu rhan hanfodol ym mywyd Cymru. Dwi’n arbennig o falch o weld arian yn cyrraedd ein prif sefydliadau diwylliannol yn ogystal â’r rhai ar lawr gwlad i sicrhau manteision y buddsoddiad i gymunedau ledled Cymru.”