Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr
ArallBusnes ac addysg

Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr

Erthygl gwestai gan Uchelgais Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2025/06/16 at 1:24 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
RHANNU

Mae Alwen Williams wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd – a elwir yn Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae’r penodiad yn dilyn pum mlynedd pan fu Alwen yn arwain ar gyflawni Cynllun Twf y rhanbarth fel Cyfarwyddwr Portffolio yn Uchelgais Gogledd Cymru – rôl y mae hi wedi’i chyfuno’n fwy diweddar â rôl Prif Weithredwr rhan-amser dros dro y CBC.

Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn sefydliad llywodraeth leol rhanbarthol newydd, a grëwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb statudol i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a chynllun datblygu strategol rhanbarthol yn ogystal â dyletswydd i wella a hyrwyddo lles economaidd rhanbarthol.

Arweiniodd y cyfrifoldebau ychwanegol hyn o fewn cylch gwaith Uchelgais Gogledd Cymru, at greu rôl lawn amser y Prif Weithredwr. Bydd Alwen nawr yn arwain y CBC sydd hefyd yn golygu ei bod yn parhau i arwain ar gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a chydweithio â phartneriaid i gyflawni Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi i’r rôl gyffrous hon ar sail barhaol a llawn amser. Mae Gogledd Cymru yn gartref i mi ac yn lle sy’n agos iawn at fy nghalon. Mae’n fraint gwirioneddol cael bod mewn rôl sy’n cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ddyfodol ffyniannus i’n rhanbarth.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae rôl y Prif Weithredwr yn hanfodol i ddatblygiad y Gogledd fel rhanbarth ac i sicrhau y gallwn ddangos ein gwerth ar lwyfan cenedlaethol a hyd yn oed byd-eang.

“Mae’r cyfrifoldebau sydd bellach yn eistedd o fewn Uchelgais Gogledd Cymru fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth yn helaeth ac mae angen arweinyddiaeth eithriadol i’w cyflawni. Rôl Alwen nawr yw cyflawni dros Ogledd Cymru a symud y rhanbarth ymlaen i’r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Is-gadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae Alwen yn arweinydd eithriadol sydd â’r sgiliau i sicrhau bod Uchelgais Gogledd Cymru yn parhau i gyflawni ar gyfer y rhanbarth.

“Mae’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf wedi dangos ei gallu i ddod â phartneriaid ledled y rhanbarth ynghyd gyda gweledigaeth glir sy’n canolbwyntio ar wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y Gogledd.”

Cyn ymuno ag Uchelgais Gogledd Cymru yn 2019, cafodd Alwen yrfa 24 mlynedd gyda BT plc a’r darparwr seilwaith Openreach Ltd mewn ystod o wahanol rolau arweinyddiaeth strategol a gweithredol. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio yn Llundain a Chaerdydd, dychwelodd ‘gartref’ gan iddi gael ei magu yng Ngwytherin, ger Llangernyw a mynychu Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

Mae gan Alwen MSc mewn Systems Thinking a BA dosbarth cyntaf (anrh) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy’r Brifysgol Agored, a thystysgrif mewn Cymell Gweithredol o Ashridge Hult Business School.

Am ei chyfraniad i fusnes yn ystod ei gyrfa ym maes telathrebu, dyfarnwyd cymrodoriaethau er anrhydedd i Alwen gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam.

Ar hyn o bryd, mae Alwen yn byw yn yr Wyddgrug, gyda’i gŵr Damian ac yn ei hamser hamdden mae’n aelod o bwyllgor datblygu King’s Trust Cymru ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Chwaraeon Cymru, elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau ariannol i chwaraeon a gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc.

Rhannu
Erthygl flaenorol Allech chi wneud unrhyw un o'r swyddi hyn? Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?
Erthygl nesaf Gwersyllt Community Resource Centre Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg

Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio

Ionawr 15, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English