Ddydd Iau, 2 Mai, bydd cyfle i chi bleidleisio ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Dim ond wythnos i fynd!
Cofiwch fod nifer o bethau wedi newid eleni am y ffordd yr ydych yn pleidleisio.
I bleidleisio yn bersonol, bydd arnoch chi angen prawf adnabod â llun. Cyn i chi adael am yr orsaf bleidleisio, sicrhewch fod gennych chi eich cerdyn pleidleisio a ffurf swyddogol o brawf adnabod a dderbynnir neu Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Os ydych chi’n bwriadu pleidleisio drwy’r post, fe ddylech chi fod wedi derbyn eich pecyn pleidleisio drwy’r post bellach. Pan fyddwch yn barod i’w ddychwelyd, byddwch yn ymwybodol nad oes modd i chi ei gyflwyno i’r staff yn nerbynfa Neuadd y Dref na Galw Wrecsam mwyach. Rhowch eich pecyn yn un o flychau’r Post Brenhinol os gwelwch yn dda. Os byddwch yn gadael eich pecyn yn y dderbynfa neu ym mlwch post Neuadd y Dref, bydd eich pleidlais yn cael ei wrthod.
Gallwch ddarganfod mwy am yr etholiad, gan gynnwys gwybodaeth am newidiadau i’r ffordd yr ydych yn pleidleisio ar dudalen Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd y Cyngor.
Ydych chi wedi gweld pwy yw’r ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad? Gallwch lawrlwytho rhestr lawn o’r ymgeiswyr o wefan Dewis fy NghHTh.