Eleni, rydym wedi cynnal ein sioeau teithiol cyntaf erioed i ofalwyr di-dâl, ac maen nhw wedi bod mor boblogaidd, rydym wedi ychwanegu mwy o ddyddiadau a lleoliadau.
Nod y sioeau teithiol yw cyrraedd cymaint o bobl â phosibl yn Wrecsam i hyrwyddo’r gwasanaethau y mae GOGDdC (NEWCIS) yn eu cynnig i ofalwyr di-dâl yn ogystal â thynnu sylw at y wybodaeth, cymorth a dewisiadau sydd ar gael o ran seibiant.
Y dyddiadau ychwanegol yw:
24 Gorffennaf, 2pm – 4pm, Neuadd y Pentref, Owrtyn
25 Gorffennaf, 11am – 1pm, Neuadd Goffa Oliver Jones
27 Gorffennaf, 9am – 12pm, Neuadd George Edwards, Cefn Mawr
28 Gorffennaf, 10.45am – 11.45am, Golden Lion, Yr Orsedd
4 Awst, 11am – 2pm, Canolfan Arddio Bellis Brothers, Holt
8 Awst, 2 – 5pm, Llyfrgell Gymunedol Gresffordd
18 Awst, 10am – 4pm, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Cofiwch, os hoffech chi gael cyngor, cymorth neu wybodaeth, gallwch gysylltu â GOGDdC neu fynd i wefan GOGDdC
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.