Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newidiadau i brisiau prydau ysgol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newidiadau i brisiau prydau ysgol
Y cyngorBusnes ac addysg

Newidiadau i brisiau prydau ysgol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 26, 2023 10:06 am
Rhannu
Darllen 5 funud
canteen
RHANNU

(Sgroliwch i lawr os oes gennych chi blentyn mewn ysgol gynradd.)

Os yw eich plentyn mewn ysgol uwchradd (ac eithrio Ysgol Maelor, Llannerch Banna*), byddwch yn ymwybodol y bydd cost pryd ysgol yn cynyddu o £2.45 i £2.65. Bydd pris eitemau eraill ar y fwydlen yn destun cynnydd cyfatebol.

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae prisiau prydau ysgol Uwchradd wedi aros yn ddigyfnewid ers Medi 2019 pan gynyddodd y pris o £2.40 i £2.45. Mewn cyferbyniad i hynny mae prisiau bwyd yn y DU wedi cynyddu 26% o’i gymharu â’u lefelau cyn Covid, tra bod prisiau eitemau bob dydd fel tatws, wyau, llaeth, bara a chaws wedi cynyddu hyd at 39% yn y 12 mis diwethaf.  

“Yn anffodus ni allwn fforddio amsugno’r cynnydd enfawr hwn mewn cost yn llawn. Drwy gadw’r cynnydd hwn mewn pris yn is na chwyddiant rydym wedi ceisio diogelu disgyblion a rhieni yn erbyn effaith llawn costau cynyddol bwyd. Mae’r opsiwn “pryd y dydd” yn parhau i gynnig gwerth da am arian a hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn mae pris pryd ysgol uwchradd yn Wrecsam yn parhau yn unol  â rhai awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich cartref, ewch i dudalennau ‘cymorth gyda chostau byw’ Cyngor Wrecsam am gyngor ar unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael i chi.”

*Mae Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn rheoli eu gwasanaeth arlwyo yn fewnol. Os yw’ch plentyn yn mynd i’r ysgol hon, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth am brisiau eu prydau ysgol.

Newidiadau i’r tâl am sesiwn chwarae boreol mewn ysgolion cynradd

Mae nifer o ysgolion cynradd yn Wrecsam yn cynnig brecwast am ddim mewn sesiwn yn y 30 munud cyn dechrau’r ysgol. Gallwn eich sicrhau na chodir unrhyw dâl o hyd am y pryd hwn.

Fodd bynnag, yn ychwanegol at y sesiwn brecwast am ddim, mae nifer o ysgolion yn cynnig sesiwn chwarae 30 munud ychwanegol ac yn codi £1 y plentyn ar rieni (am ddim i blant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim).

Tra bod y gyfradd hon wedi aros yn ddigyfnewid ers y cyflwynwyd y ddarpariaeth yn 2018, o ganlyniad i gynnydd mewn costau gweinyddol a staffio, a’r ffaith nad yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyllid allanol, nid yw hyn yn gynaliadwy mwyach.

I sicrhau fod ysgolion yn gallu parhau i ddarparu’r sesiynau hyn, bydd y ffi i bob plentyn am y sesiwn chwarae 30 munud yn cynyddu i £2 y plentyn (50c i blant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim) o Fedi 1 2023.

Nid yw’r cynnydd hwn yn effeithio ar y sesiwn brecwast 30 munud yn union cyn dechrau’r diwrnod ysgol, sy’n parhau am ddim i bob plentyn.

Fe wyddom y daw hyn ar adeg pan fo cynifer o breswylwyr yn teimlo fod costau cartref yn heriol. Os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich cartref, ewch i dudalennau ‘cymorth gyda chostau byw’ Cyngor Wrecsam am gyngor ar unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael i chi. 

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd dudalen gymorth yn ymwneud â chostau byw, sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â ffynonellau o gymorth ariannol posibl.

Os hoffech i’ch plentyn fynychu sesiwn frecwast, cysylltwch â’u hysgol i gael y manylion.

A ydych chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim?

Os ydych chi ar incwm isel, fe allwch fod yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal â’r grant Hanfodion Ysgol i helpu gyda phrynu gwisg ysgol a chyfarpar. Ewch i’r dudalen isod i gael gwybod mwy:

Y Cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn cael ei gyflwyno i Flynyddoedd 3 i 6 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol green bin Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd yn barod ar gyfer mis Medi
Erthygl nesaf Young Carer Sioeau Teithiol Gofalwyr Di-dâl – ychwanegu mwy o ddyddiadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English